Neges ac agwedd y bardd
Bardd gwladgarol yw Myrddin ap Dafydd, ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y gerdd Walkers鈥 Wood yn ei ddicter tuag at dwristiaid sy鈥檔 newid yr ardal er gwaeth. Mae鈥檔 disgrifio ei hun fel dyn anfodlon ar adegau ac mae鈥檙 anfodlonrwydd hwn yn amlygu ei hun pan mae鈥檔 gosod pellter rhyngddo ef a鈥檙 cerddwyr trwy eu galw鈥檔 鈥榬hai鈥 yn y geiriau Ar 么l y rhai fu鈥檔 crwydro Walkers鈥 Wood.
Er mwyn cyfleu ei ddicter a鈥檌 ddirmyg am y twristiaid sy鈥檔 gadael llanast ar eu holau, mae鈥檔 defnyddio geiriau Saesneg, 鈥楤etws Guide鈥 a 鈥榗risps鈥. Mae鈥檙 defnydd hwn o鈥檙 Saesneg yn darlunio pa mor fregus yw ein hiaith a鈥檔 diwylliant dan fygythiad mewnlifiad parhaus o bobl ddi-Gymraeg sydd ddim o Gymru. Nid yw twristiaid yn dangos diffyg parch at y Gymraeg trwy ddefnyddio鈥檙 enw 鈥榃alkers鈥 Wood鈥 yn hytrach na 鈥楥hoed Llugwy鈥 ac mae鈥檙 bardd yn gweld hynny. Nid ydynt yn dangos parch at y wlad chwaith, maen nhw鈥檔 gollwng y cwdyn creision.
Serch hynny, gallwn ddadlau bod y mab yn cynrychioli gobaith i鈥檙 genhedlaeth nesaf, sy鈥檔 awgrym o sicrwydd a hyder i barhad Cymru a鈥檙 Gymraeg. Wedi鈥檙 cwbl, mae鈥檔 llwyddo i drosglwyddo etifeddiaeth werthfawr i鈥檞 fab trwy gyflwyno enwau hardd y coed iddo yn y Gymraeg. Mae perthynas agos y tad a鈥檙 mab yn cael ei phwysleisio wrth i鈥檙 bardd ailadrodd y gair 鈥楧ad鈥 ar ddiwedd pob cwestiwn y mae鈥檙 mab yn ei ofyn.
Question
Cymharwch y gerdd hon a鈥檙 gerdd Enwau gan Wyn Owens (Fesul Gair). Trafodwch agwedd y bardd yn y ddwy gerdd.
Mae Myrddin ap Dafydd yn flin yn y gerdd Walkers鈥 Wood. Mae Wyn Owens hefyd yn flin yn y gerdd Enwau. Er nad yw鈥檙 ddau fardd yn defnyddio geiriau cas i gyfleu eu dicter, mae鈥檙 ddau fardd yn flin am yr un peth, sef y ffaith fod ein geiriau Cymraeg am wrthrychau pob dydd fel blodau ac adar a lleoliadau yn cael eu colli. Maen nhw'n cael eu colli am nad ydyn ni yn eu defnyddio ddigon ac am nad ydyn ni yn eu trosglwyddo i鈥檙 genhedlaeth nesaf.
Yng ngherdd Wyn Owens, Enwau, mae鈥檔 dweud ein bod yn colli enwau carnau, adar a blodau. Penllanw hyn fydd colli enw ein gwlad a thrwy hynny, golli perchnogaeth ar ein gwlad am fod Cymru yn llechu tan gysgod ei chymdoges fawr.
Mae awgrym cryf mai Lloegr yw鈥檙 鈥榌g]ymdoges fawr鈥 鈥 a鈥檙 iaith Saesneg efallai. Dywed fod yr enwau hyn i gyd yn 鈥榞wywo鈥 yn anffodus am na chlywir eu hyngan gan odid un llais.
Serch hynny, mae鈥檙 ffaith fod un llais yn cofio鈥檙 enwau yma yn golygu nad yw鈥檙 geiriau wedi mynd ar goll eto. Mae yma obaith, petai鈥檙 llais hwn yn gallu trosglwyddo鈥檙 enwau i eraill, gallwn sicrhau ein bod yn cadw鈥檙 enwau hyn yn fyw yn y Gymraeg.
Ceisio sicrhau ein bod yn cadw鈥檙 enwau Cymraeg y mae Myrddin ap Dafydd, wrth iddo atgoffa鈥檌 fab am enw gwreiddiol y goedwig sef 鈥楥oed Llugwy鈥 ac wrth gyfeirio at enwau鈥檙 coed 鈥 鈥榶 gollen鈥 a鈥檙 鈥榝fawydd鈥.
Cwestiynau i鈥檙 gynulleidfa yw鈥檙 rhai rhethregol yng ngherdd Wyn Owens. Drwy ofyn y rhain mae鈥檔 gobeithio y gwn芒nt sylwi ar y golled,
A weli di鈥檙 garn ar y gorwel draw / yn herio鈥檙 amserau a rhyferthwy鈥檙 glaw?
Cyfres o gwestiynau sydd gan Myrddin ap Dafydd yn Walkers鈥 Wood hefyd. Serch hynny, cyfres o gwestiynau gan y mab i鈥檞 dad sydd yn y gerdd hon:
Ble ddaeth hon, y ddeilen felen, Dad, / A dannedd m芒n ar hyd ei hymyl hi?
Trwy gyfrwng y cwestiynau hyn rydyn ni鈥檔 cael darlun o berthynas agos y tad a鈥檙 mab ac rydyn ni鈥檔 cael llygedyn o obaith hefyd, yn y ffaith bod y tad yn gallu trosglwyddo cymaint o gyfoeth yr iaith i鈥檞 fab, yn ddiarwybod iddo, yn ei atebion iddo.
Cred Wyn Owens yn Enwau ein bod, trwy golli鈥檙 holl enwau yma, yn gadael i鈥檔 gwlad i fynd rhwng y c诺n a鈥檙 brain
. Mae Myrddin ap Dafydd o鈥檙 un farn, sef ein bod yn gwneud cam 芒鈥檔 gwlad trwy ildio鈥檔 ormodol i dwristiaid,
Coed Llugwy ydi鈥檙 enw arnynt, was, / Ond Walkers鈥 Wood sydd yn y Betws Guide.
More guides on this topic
- Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Cymharu dwy gerdd
- Nodweddion arddull
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd