大象传媒

Arian tramor a chyfraddau cyfnewidCyfraddau cyfnewid o arian tramor

Pan fyddi di鈥檔 mynd dramor, bydd yn rhaid i ti newid dy arian. Mae鈥檔 bwysig dy fod yn gwybod y gyfradd gyfnewid a'r ffi gomisiwn sy鈥檔 rhaid i ti ei thalu er mwyn cael y fargen orau bosib.

Part of Mathemateg RhifeddRhif

Cyfraddau cyfnewid o arian tramor

Weithiau bydd y cyfraddau cyfnewid yn dangos faint yw gwerth un uned o arian tramor mewn punnoedd Prydeinig.

Gallai un uned o arian tramor gyfeirio at $1 yn UDA, 鈧1 yn Ffrainc neu 楼1 yn Japan.

Casgliad o arian papur tramor
Image caption,
Arian papur tramor LLUN: Peter Dazeley

Enghraifft 1

Y gyfradd gyfnewid o ddoleri UDA i鈥檙 bunt Brydeinig yw $1 = 拢0.64.

Gan mai doleri yw鈥檙 uned sengl:

  • lluosa i newid o ddoler UDA i鈥檙 bunt Brydeinig
  • rhanna i newid o鈥檙 bunt Brydeinig i ddoler UDA

Efallai y bydd y diagram hwn yn dy helpu i ddychmygu鈥檙 trawsnewid yn fwy eglur:

Fformiwla i drawsnewid arian tramor a chyfraddau cyfnewid $1 = 拢0.64 (x0.64) (梅 0.64)

Enghraifft 2

Cyfrifa werth $30 mewn punnoedd Prydeinig.

$30 脳 0.64 = 拢19.20.

Enghraifft 3

Cyfrifa werth 拢57 mewn doleri UDA.

拢57 梅 0.64 = $89.0625.

$89.06 (i ddau le degol).

Question

鈧1 = 拢0.72

  1. Beth yw 鈧85 mewn punnoedd Prydeinig?
  2. Beth yw 拢50 mewn ewros?