Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hydoedd mewn trionglau ongl sgwâr. Gwelir trionglau ongl sgwâr mewn bywyd bob dydd – o ddimensiynau teledu i ysgol sy'n gorffwys yn erbyn wal.
Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur
Save to My Bitesize
Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hyd unrhyw ochr o driongl ongl sgwâr pan rydyn ni'n gwybod hyd y ddau ochr arall.
Mae sgwâr yr hypotenws yn hafal i swm sgwariau y ddwy ochr sy'n weddill.
Yr hypotenws yw'r ochr hiraf – bydd bob amser gyferbyn yr ongl sgwâr.
I gynrychioli hyn mewn fformiwla fathemategol gallwn ni ddweud:
\({a}{^2}~=~{b}{^2}~{+}~{c}{^2}\)
Pan \(a\) yw hyd yr hypotenws ac mae'r ochrau eraill wedi'u labelu'n \(b\) a \(c\).
Yn y triongl hwn mae angen i ni ddod o hyd i'r hypotenws.
Wrth ddilyn theorem Pythagoras, cawn:
\({x}{^2}~=~{3}{^2}~{+}~{4}{^2}\)
\({x}{^2}~=~{9}~{+}~{16}\)
\({x}{^2}~=~{25}\)
I ddod o hyd i \({x}\), mae angen i ni ddod o hyd i ail isradd y ddwy ochr wedi'u hadio at ei gilydd.
\({x}~{=}~\sqrt{25}\)
\({x}~{=}~{5}~{cm}\)
Tyrd o hyd i'r hyd AC, gan roi dy ateb i ddau le degol.
AC2 = 62 + 22
AC2 = 36 + 4
AC2 = 40
AC = √40
AC2 = 6.32455532
AC2 = 6.32 m (i ddau le degol)