ý

Theorem Pythagoras – Canolradd ac UwchDefnyddio'r hypotenws i ddod o hyd i'r ochr arall

Mae theorem Pythagoras yn caniatáu i ni gyfrifo hydoedd mewn trionglau ongl sgwâr. Gwelir trionglau ongl sgwâr mewn bywyd bob dydd – o ddimensiynau teledu i ysgol sy'n gorffwys yn erbyn wal.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Defnyddio'r hypotenws i ddod o hyd i'r ochr arall

Hefyd gellir defnyddio theorem Pythagoras i ddod o hyd i hyd ochr arall y trionglau gan ddefnyddio'r hypotenws.

Mae sgwâr yr hypotenws wedi'i dynnu gan sgwâr yr ochr arall yn hafal i sgwâr yr ochr sy'n weddill.

I ddod o hyd i hyn, rydym ni wedi aildrefnu'r fformiwla \({a}{^2}~{=}~{b}{^2}~{+}~{c}{^2}\) i ddarganfod:

\({b}{^2}~{=}~{a}{^2}~{-}~{c}{^2}\)

\({c}{^2}~{=}~{a}{^2}~{-}~{b}{^2}\)

Triongl ongl sgwâr ag ochrau a, b a c, lle a yw'r hypotenws

Tyrd o hyd i'r hyd AB, gan roi dy ateb i ddau le degol.

Triongl ongl sgwâr lle ochr AC yw'r hypotenws, sy'n 12mm, mae ochr BC yn 5mm, ac mae ochr AB yn anhysbys

Yn y triongl hwn, gwyddom yr hypotenws felly bydd angen i ni dynnu o'r hypotenws.

AB2 = 122 – 52

AB2 = 144 – 25

AB2 = 119

AB = √119

AB = 10.90871211

AB = 10.91 mm (i ddau le degol)

Question

Tyrd o hyd i hyd yr ochr wedi'i nodi â \({z}\).

Talgrynna dy ateb i ddau le degol.

Triongl ongl sgwâr lle mae'r hypotenws yn 42m, mae ochr Z yn anhysbys, ac mae'r ochr sy'n weddill yn 35m