大象传媒

Amlder cymharolAmcangyfrif tebygolrwydd

Wrth daflu ceiniog, mae siawns gyfartal o gael pen neu gynffon. Ond mewn rhai achosion, yn lle defnyddio canlyniadau sydd yr un mor debygol mae angen defnyddio鈥檙 hyn a elwir yn 鈥榓mlder cymharol鈥.

Part of MathemategTebygolrwydd

Amcangyfrif tebygolrwydd

Er enghraifft, petaet ti鈥檔 gweld \({100}\) o geir yn pasio ac yn canfod bod \({23}\) ohonyn nhw鈥檔 goch, yr amlder cymharol ydy \(\frac{23}{100}\).

Cywirdeb

Bag yn cynnwys 3 fferen goch a 7 fferen las

Mae bag yn cynnwys \({3}\) losin coch a \({7}\) losin glas.

Cymerodd Tom losin o鈥檙 bag, nodi ei liw ac wedyn ei roi鈥檔 么l.

Gwnaeth hyn \({10}\) gwaith a chanfod ei fod wedi cael losin coch ar \({4}\) achlysur, hy yr amlder cymharol oedd \(\frac{4}{10}\).

Wedyn gwnaeth yr un arbrawf \({10}\) gwaith eto, a chyfuno鈥檌 ganlyniadau 芒鈥檙 prawf cyntaf a chanfod ei fod wedi cael losin coch ar \({5}\) achlysur allan o \({20}\), hy yr amlder cymharol oedd \(\frac{5}{20}\).

Wrth gwrs, gan mai bwriad Tom oedd amcangyfrif cyfran y losin coch yn y bag, bysai wedi cael yr ateb cywir drwy gymryd y losin o'r bag a pheidio eu rhoi yn 么l. Yn amlwg, nid yw hyn yn ymarferol ar gyfer niferoedd mawr o losin.

Daliodd Tom ati fel hyn gan gofnodi ei ganlyniadau wedi eu cyfuno ar 么l pob \({10}\) treial a鈥檜 dangos ar y graff isod:

Diagram o ddau ddis tetrahedrol

Mae鈥檙 graff yn dangos bod yr amlder cymharol yn gwella, hy yn agos谩u at y gwir debygolrwydd wrth i nifer y treialon gynyddu.

More guides on this topic