大象传媒

Hafaliadau聽cydamserol - Canolradd ac UwchHafaliadau cydamserol

Mae angen defnyddio sgiliau algebraidd wrth ymdrin 芒 hafaliadau cydamserol er mwyn canfod gwerth yr anhysbysion mewn dau hafaliad neu fwy, sy鈥檔 wir ar yr un pryd.

Part of MathemategAlgebra

Hafaliadau cydamserol

Gall hafaliadau sy鈥檔 cynnwys mwy nag un anhysbysyn gael nifer anfeidraidd o atebion sy鈥檔 eu gwneud yn wir. Er enghraifft, gallwn ddatrys \(2x + y = 10\) drwy gael:

  • \(x = 1\) ac \(y = 8\)
  • \(x = 2\) ac \(y = 6\)
  • \(x = 3\) ac \(y = 4\)

Er mwyn gallu datrys hafaliad fel hwn, rhaid i ni ddefnyddio hafaliad arall ochr yn ochr ag ef. Drwy wneud hyn, mae鈥檔 bosib i ni ganfod yr unig b芒r o werthoedd sy鈥檔 datrys y ddau hafaliad ar yr un pryd. Yr enw ar y rhain yw hafaliadau cydamserol.

Dyma rai enghreifftiau:

\(3x + y = 11\)

\(2x + y = 8\)

Mae gwerthoedd \(x\) ac \(y\) yr un peth yn y ddau hafaliad. Gallwn ddefnyddio鈥檙 ffaith hon i鈥檔 helpu i ddatrys y ddau hafaliad cydamserol ar yr un pryd a chanfod gwerthoedd \(x\) ac \(y\).

Datrys hafaliadau cydamserol drwy gael gwared ag anhysbysyn

Y dull mwyaf cyffredin ar gyfer datrys hafaliadau cydamserol yw鈥檙 dull dileu. Golyga hyn y byddwn yn cael gwared ag un llythyren o鈥檙 hafaliad drwy ddefnyddio algebra. Yna gallwn gyfrifo鈥檙 llythyren sydd ar 么l. Gallwn wneud hyn os yw un o鈥檙 llythrennau鈥檙 un fath, beth bynnag fo鈥檙 arwydd.

Enghraifft

Datrysa鈥檙 hafaliadau cydamserol hyn:

\(3x + y = 11\)

\(2x + y = 8\)

Yn gyntaf, penderfyna pa newidyn sydd 芒鈥檙 un cyfernod. Yn yr enghraifft hon, mae hyn yn wir am y llythyren \(y\), sydd 芒 chyfernod o 1 yn y ddau hafaliad.

Rhaid i ni naill ai adio neu dynnu鈥檙 ddau hafaliad o鈥檌 gilydd er mwyn cael gwared 芒鈥檙 llythyren \(y\). Yn yr enghraifft hon, bydd yn rhaid i ni dynnu un hafaliad o鈥檙 llall gan fod \(y - y = 0\).

Pe bai鈥檙 hafaliadau鈥檔 cael eu hadio at ei gilydd, yna byddai gennyn ni \(y + y = 2y\), ac felly ni fydden ni wedi cael gwared 芒鈥檙 llythyren \(y\).

\(\begin{array}{ccccc} 3x & + & y & = & 11 \\ - && - && - \\ 2x & + & y & = & 8 \\ = && = && = \\ x &&& = & 3 \end{array}\)

Gall gwerth \(x\) nawr gael ei amnewid yn y naill hafaliad neu鈥檙 llall er mwyn canfod gwerth \(y\).

Amnewidia \(x = 3\) yn naill ai \(3x + y = 11\) neu \(2x + y = 8\).

\(3x + y = 11\) pan fo \(x = 3\)

Amnewidia \(x = 3\):

\(3~\mathbf{\times~3} + y = 11\)

\(9 + y = 11\)

Canfydda werth \(y\) gan ddefnyddio i ddatrys hafaliadau. Y gwrthdro o adio 9 yw tynnu 9, felly tynna 9 o鈥檙 ddwy ochr:

\(9 + y - 9 = 11 - 9\)

\(y = 2\)

Gwiria鈥檙 atebion drwy amnewid y ddau werth yn yr hafaliad gwreiddiol arall. Os yw鈥檙 hafaliad yn cydbwyso, yna mae鈥檙 atebion yn gywir:

\(2x + y = 8\) pan fo \(x = 3\) ac \(y = 2\).

\(2~\mathbf{\times~3} + \mathbf{2} = 8\)

\(6 + 2 = 8\)

\(8 = 8\)