Beth am ddilyn y cyfarwyddiadau yn y canllaw astudio hwn a rhoi cynnig ar rai o鈥檙 lluniadau hyn dy hun? Bydd angen pensel, pren mesur, cwmpas a phapur arnat ti.
Part of MathemategOnglau
Save to My Bitesize
Ymarfera鈥檙 lluniad hwn nes gelli di ei wneud heb edrych ar y cyfarwyddiadau.
Lluniadu canolbwynt segment llinell
Gan osod dy gwmpas ar un pen i鈥檙 llinell, tynna arc gan wneud yn si诺r ei bod dros hanner ffordd ar draws y llinell.
Yn ofalus, heb newid y pellter rhwng y bensil a鈥檙 cwmpas, gosoda dy gwmpas ar ben arall y llinell a thynnu arc arall, gan groesi鈥檙 arc gyntaf mewn dau le.
Mae鈥檙 pwyntiau lle mae鈥檙 ddwy arc yn croesi (A a B) yn union yr un pellter oddi wrth X ac Y.
Defnyddia dy bren mesur i dynnu llinell i gysylltu鈥檙 ddau bwynt hyn.
Pan wneir hyn yn gywir, bydd y llinellau XY ac AB bob amser ar ongl sgw芒r i'w gilydd.
1 of 6