Cyfeiriant tri ffigur
Cyfeiriannau
Dychmyga dy fod ar goll yn y wlad heb arwyddion i dy arwain at y llwybr cywir. Sut byddet ti鈥檔 gwybod sut i gyrraedd adre?
Mae鈥檔 bosibl i ti ffonio ffrind a gofyn iddyn nhw geisio dy arwain ar hyd y ffordd gywir drwy roi cyfarwyddiadau megis 'cerdda i鈥檙 chwith' neu 'tro \({60}^\circ\) ac yna cerdda ymlaen'.
Ond, sut maen nhw鈥檔 gwybod lle rwyt ti yn y lle cyntaf?
Un ffordd o ddisgrifio cyfeiriad o un pwynt ydy defnyddio cyfeiriant tri ffigur.
Mae cwmpawd bob amser yn pwyntio i鈥檙 gogledd. Mae cyfeiriant yn cael ei fesur o linell y gogledd, i gyfeiriad clocwedd bob amser.
Felly, pan fydd rhywun yn dweud wrthot ti am gerdded ar gyfeiriant o \({120}^\circ\), dylet ti wynebu鈥檙 gogledd, troi鈥檔 glocwedd trwy \({120}^\circ\) a dechrau cerdded.
Enghraifft
Mae鈥檙 ongl rhwng llinell y gogledd a llwybr hedfan yr awyren yn \({30}^\circ\). Rydyn ni鈥檔 dweud bod yr awyren yn hedfan ar gyfeiriant o \({030}^\circ\) o A.