大象传媒

Meddalwedd trin gwybodaethCronfeydd data perthynol

Mae cronfa ddata yn ffordd o storio gwybodaeth mewn ffordd drefnus, resymegol. Mae鈥檔 bwysig gwybod pryd i ddefnyddio cronfa ddata a bod yn ymwybodol o鈥檌 manteision.

Part of TGChMeddalwedd rhaglenni

Cronfeydd data perthynol

Mae gan berthynol fwy nag un tabl ac mae鈥檙 tablau鈥檔 cael eu cysylltu drwy ddefnyddio . Er enghraifft, gallai cronfa ddata llyfrgell gynnwys tri thabl:

  1. Cwsmer - pan fydd cwsmer yn ymuno 芒鈥檙 llyfrgell bydd cofnod yn cael ei greu. Mae鈥檔 storio manylion y cwsmer, er enghraifft ei enw cyntaf a鈥檌 gyfenw, ac mae鈥檔 cynnwys Rhif Adnabod unigryw鈥檙 Cwsmer.
  2. Llyfr - mae gan bob llyfr yn y llyfrgell gofnod. Mae鈥檔 storio manylion am y llyfr, er enghraifft yr awdur a鈥檙 teitl, ac yn cynnwys rhif adnabod unigryw鈥檙 llyfr.
  3. Benthyca - pan fydd cwsmer yn benthyca llyfr, bydd y tabl benthyca yn storio rhif adnabod unigryw鈥檙 cwsmer a rhif adnabod unigryw鈥檙 llyfr mewn cofnod. Gallai鈥檙 cofnod hefyd gynnwys ychwanegol, er enghraifft pryd gafodd y llyfr ei fenthyca a phryd mae disgwyl iddo gael ei ddychwelyd.

Mae rhifau adnabod y cwsmer a鈥檙 llyfr yn enghreifftiau o feysydd allweddol.

Manteision

  • Dim ond unwaith y mae angen mewnbynnu manylion y llyfr a manylion y cwsmer i鈥檙 gronfa ddata.
  • Oherwydd hyn, mae camgymeriadau鈥檔 llai tebygol o ddigwydd. Er enghraifft, pe bai cofnod cwsmer yn cynnwys camgymeriad, byddai cywiro鈥檙 camgymeriad unwaith yn golygu ei fod wedi鈥檌 gywiro ym mhob rhan o鈥檙 gronfa ddata.
  • Osgoi dyblygu 鈥 mae hyn yn sicrhau nad yw ffeil y gronfa ddata yn mynd yn rhy fawr.
  • Mae modd gweld manylion llyfrau a chwsmeriaid yn hawdd drwy ddefnyddio eu rhifau adnabod unigryw.
  • Mae鈥檔 bosibl gwneud ymholiadau a chreu adroddiadau, er enghraifft, rhestr o lyfrau y mae cwsmer wedi鈥檜 benthyca ers ymuno 芒鈥檙 llyfrgell.
Cyfrifiadur llyfrgell yn dangos cronfa ddata berthynol ar y sgrin a chymeriad yn dychwelyd llyfr yn hwyr.