大象传媒

Meddalwedd trin gwybodaethCipio data

Mae cronfa ddata yn ffordd o storio gwybodaeth mewn ffordd drefnus, resymegol. Mae鈥檔 bwysig gwybod pryd i ddefnyddio cronfa ddata a bod yn ymwybodol o鈥檌 manteision.

Part of TGChMeddalwedd rhaglenni

Cipio data

Cyn creu rhaid casglu鈥檙 . Mae鈥檔 bosibl gwneud hyn drwy ddefnyddio ffurflen cipio data.

Mae ffurflen sy鈥檔 cael ei llenwi gan gwsmer sy鈥檔 prynu car gan garej gwerthu ceir yn enghraifft o ffurflen cipio data.

Cyfrifiadur personol mewn garej gwerthu ceir 芒 ffurflen cipio data ar y sgrin a鈥檙 cwrt blaen i鈥檞 weld drwy鈥檙 ffenestr.
Figure caption,
Enghraifft o ffurflen cipio data ar gyfer garej gwerthu ceir

Yn aml iawn mae ffurflenni cipio data鈥檔 defnyddio blychau neu nifer penodol o fylchau. Weithiau maen nhw鈥檔 rhoi enghreifftiau hefyd. Mae hyn er mwyn gwneud yn si诺r bod pob maes yn cael ei gwblhau鈥檔 gywir.

Mae data yn aml yn cael eu mewnbynnu fel cod mewn cronfa ddata. Er enghraifft, yn y ffurflen cipio data mae D yn cael ei ddefnyddio am Do ac N am Naddo. Mae codau fel hyn yn cael eu defnyddio oherwydd eu bod:

  • yn cymryd llai o amser i鈥檞 teipio i mewn
  • yn defnyddio llai o le ar y ddisg
  • yn hawdd i鈥檞 dilysu
  • yn gwneud y dasg o chwilio am ddata yn y gronfa ddata yn haws gan fod y data鈥檔 cael eu mewnbynnu mewn fformat safonol