Effaith tymheredd ar hydoddedd
Yn gyffredinol, mae solidau鈥檔 mynd yn fwy hydawddYn gallu hydoddi mewn hydoddydd. Er enghraifft, mae siwgr yn hydawdd mewn d诺r am ei fod yn hydoddi i greu hydoddiant siwgr. wrth i鈥檙 tymheredd gynyddu. Dyma pam mae siwgr yn hydoddi鈥檔 well mewn d诺r poeth nag mewn d诺r oer. Mae鈥檙 tabl yn dangos tair enghraifft o hydoddedd (g o hydoddyn i bob 100 g o dd诺r) sylweddau ar wahanol dymereddau.
20掳颁 | 30掳颁 | 40掳颁 | |
Plwm(II) nitrad | 54.3 | 63.4 | 72.1 |
Potasiwm nitrad | 31.6 | 45.8 | 63.9 |
Sodiwm clorid | 35.9 | 36.1 | 36.4 |
Plwm(II) nitrad | |
---|---|
20掳颁 | 54.3 |
30掳颁 | 63.4 |
40掳颁 | 72.1 |
Potasiwm nitrad | |
---|---|
20掳颁 | 31.6 |
30掳颁 | 45.8 |
40掳颁 | 63.9 |
Sodiwm clorid | |
---|---|
20掳颁 | 35.9 |
30掳颁 | 36.1 |
40掳颁 | 36.4 |
Cromliniau hydoddedd
Mae gan bob hydoddyn hydoddedd penodol ar dymheredd ystafell. Fodd bynnag, mae hydoddedd hydoddyn yn newid wrth i dymheredd y d诺r newid. Gallwn ni ddefnyddio cromlin hydoddedd i ddangos hydoddedd sylwedd mewn d诺r ar wahanol dymereddau. Gallwn ni ddefnyddio cromliniau hydoddedd i ganfod m脿s grisialau sy鈥檔 ffurfio wrth oeri hydoddiant.
Mae hydoddedd pob hydoddyn yn amrywio gyda thymheredd, ac mae鈥檙 newid hydoddedd gyda thymheredd yn dibynnu ar yr hydoddyn.
Mae鈥檙 cromliniau鈥檔 dangos:
- bod hydoddedd pob un o鈥檙 tri hydoddyn yn cynyddu wrth i鈥檙 tymheredd gynyddu
- mai hydoddedd potasiwm nitrad sy鈥檔 cynyddu fwyaf o tua 30 g i bob 100 g o dd诺r i dros 200 g i bob 100 g o dd诺r
- nad yw hydoddedd sodiwm clorid yn newid llawer o gwbl
- bod sodiwm clorid a phlwm(II) nitrad yn fwy hydawdd na photasiwm nitrad ar dymheredd isel
- bod hydoddedd plwm(II) nitrad a photasiwm nitrad yr un fath ar tua 50掳C (tuag 80 g i bob 100 g o dd诺r, sef lle mae cromliniau hydoddedd y sylweddau hyn yn croesi)
- bod hydoddedd sodiwm clorid a photasiwm nitrad yr un fath ar tua 23掳C (tua 38 g i bob 100 g o dd诺r, sef lle mae cromliniau hydoddedd y sylweddau hyn yn croesi)