大象传媒

Casglu a chofnodi dataHoliaduron

Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli鈥檙 data.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Holiaduron

Dyma esiampl o gwestiwn holiadur. Pam fod y cwestiwn yn anaddas?

Cwestiwn 1

Wyt ti鈥檔 cytuno mai Wrecsam ydy鈥檙 clwb p锚l-droed gorau yng Nghymru?

Mae hwn yn gwestiwn gwael gan ei fod yn arwain y person sy鈥檔 ateb. Gwell cwestiwn fyddai:

Cwestiwn 2

Pa glwb p锚l-droed wyt ti鈥檔 feddwl ydy鈥檙 gorau yng Nghymru?

Mae Cwestiwn 1 yn dangos tuedd, ac mae hyn i鈥檞 weld yn aml mewn holiaduron gwael. Mae tuedd yn gallu amlygu ei hun hefyd wrth ofyn cwestiwn mewn lleoliad arbennig. Byddai gofyn pa glwb p锚l-droed ydy鈥檙 gorau yng Nghymru, ar bnawn dydd Sadwrn tu allan i stadiwm p锚l-droed Caerdydd yn si诺r o gael ymateb gwahanol iawn i ofyn ynghanol y ddinas ar fore dydd Llun.

Hefyd, er mwyn cael darlun cwbl deg, dylid gofyn y cwestiwn ar draws ardal eang, ee Cymru gyfan.

Felly, mae angen bod yn ofalus wrth ysgrifennu cwestiynau ar gyfer holiadur.

Gall cwestiwn fod yn anaddas am resymau eraill hefyd:

Cwestiwn 3

Diagram i ddangos darn o holiadur

Yn yr achos hwn, pa flwch ddylai plentyn \({10}\) oed ei nodi?

Rhaid gofalu bod unrhyw opsiynau sy鈥檔 cael eu cynnig gan yr holiadur yn ystyried pob unigolyn.

More guides on this topic