Tablau dwyffordd
Gelli di ddefnyddio tabl dwyffordd i ddangos dwy set o wybodaeth.
Enghraifft o ymchwiliad
Gwnaeth Aled arolwg i ddarganfod faint o鈥檌 gyd-ddisgyblion sy鈥檔 llaw chwith. Mae ei ganlyniadau i鈥檞 gweld yn y tabl isod:
Dyma enghraifft o dabl dwyffordd ac mae鈥檔 cael ei ddefnyddio i ddangos dwy nodwedd wahanol mewn arolwg.
Yn yr achos hwn mae鈥檔 dangos:
- bechgyn a merched
- llaw chwith neu llaw dde
Gelli di gael llawer o wybodaeth o鈥檙 tabl hwn. Er enghraifft, gelli di weld bod dau fachgen llaw chwith yn y dosbarth. Gelli di weld hefyd fod \({13}\) o ferched yn y dosbarth (\({1}\) llaw chwith a \({12}\) heb fod yn llaw chwith).
Question
Faint o blant llaw dde sydd yn y dosbarth?
Mae \({14}\) o fechgyn llaw dde a \({12}\) o ferched llaw dde, felly \({14}+{12}={26}\).
Question
Faint o blant sydd i gyd?
Mae \({29}\) o blant i gyd.
Dyma gyfanswm yr holl rifau yn y tabl.