大象传媒

Casglu a chofnodi dataData di-dor

Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli鈥檙 data.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Data di-dor

Hyd yn hyn, mae鈥檙 data rwyt ti wedi ei weld yn ddata arwahanol.

Os byddwn ni鈥檔 cyfrif pethau, rydyn ni鈥檔 cael data arwahanol. Mae naid pendant rhwng y data, hy mae鈥檔 bosib cael \({4}\) car coch neu \({5}\) car coch ond gelli di ddim cael \({4}\frac{1}{2}\) car coch, na \({4.27}\) car coch. Mae maint esgidiau hefyd yn ddata arwahanol 鈥 gelli di gael maint \({4},~{4}\frac{1}{2},~{5},~{5}\frac{1}{2},~{6}\) ayyb 鈥 ond gelli di ddim cael maint \({4}\frac{3}{4}\) na maint \({6.2.}\)

Ar y llaw arall, mae data di-dor yn ddata a all fod yn unrhyw werth, ee amser, taldra a phwysau.

Oherwydd bod data di-dor yn gallu bod yn unrhyw werth, mae nifer di-ben-draw o ganlyniadau posib. Felly, mae鈥檔 rhaid grwpio data di-dor cyn gallu eu cyfleu mewn tabl amlder neu ddiagram ystadegol.

Grwpio data di-dor

Wrth ddewis grwpiau ar gyfer y data, gwna鈥檔 si诺r fod modd rhoi pob darn o ddata mewn un (a dim ond un) o鈥檙 grwpiau.

Enghraifft o ymchwiliad

Rwyt ti鈥檔 ymchwilio i faint o amser y mae pob aelod o鈥檙 dosbarth yn ei dreulio ar y we mewn wythnos. Edrycha ar y grwpiau dosbarthu isod 鈥 wyt ti鈥檔 meddwl eu bod nhw鈥檔 gywir?

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae鈥檙 grwpiau hyn yn anghywir, achos gallwn ni roi鈥檙 amserau 鈥橽({10}\) awr鈥 a 鈥橽({20}\) awr鈥 mewn dau gr诺p gwahanol.

Er enghraifft, gallwn ni roi鈥檙 amser \({10}\) awr yn y dosbarth \({0}\leq{amser}\leq{10}\) (lle mae amser yn llai na neu鈥檔 hafal i \({10}\) awr), a hefyd yn y dosbarth \({10}\leq{amser}\leq{20}\) (lle mae amser yn fwy na neu鈥檔 hafal i \({10}\) awr).

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae鈥檙 grwpiau hyn yn anghywir hefyd, achos does dim modd rhoi鈥檙 amserau 鈥橽({10}\) awr鈥 a 鈥橽({20}\) awr鈥 yn unrhyw un o鈥檙 grwpiau.

Er enghraifft, does dim modd rhoi鈥檙 amser \({10}\) awr yn y gr诺p \({0}\textless{amser}\textless{10}\) (lle mae amser yn llai na \({10}\) awr), na chwaith yn y gr诺p \({10}\textless{amser}\textless{20}\) (lle mae amser yn fwy na \({10}\) awr).

Enghraifft o dabl ar gyfer drwpio data di-dor

Mae鈥檙 grwpiau hyn yn iawn. Mae 鈥橽({10}\) awr鈥 wedi ei gynnwys yn yr ail gr诺p, ond nid yn y cyntaf, ac mae 鈥橽({20}\) awr鈥 wedi ei gynnwys yn y trydydd gr诺p, ond nid yn yr ail.

More guides on this topic