大象传媒

Casglu a chofnodi dataDiagramau brigyn a dail

Wrth wneud ymchwiliad, bydd angen i ti gasglu a chofnodi data y gelli di dynnu casgliadau ohonyn nhw. Dysga fwy am y gwahanol ffyrdd o gasglu, cofnodi, trefnu a dehongli鈥檙 data.

Part of MathemategCasglu, cofnodi a chynrychioli data

Diagramau brigyn a dail

Mae diagram brigyn a dail yn un ffordd o grwpio dy ddata鈥檔 ddosbarthiadau a dangos si芒p y data.

Enghraifft o ymchwiliad

Mae prawf mathemateg wedi ei farcio allan o \({50}\). Mae marciau鈥檙 dosbarth yn cael eu dangos isod:

Tabl yn dangos marciau 30 o ddisgyblion mewn prawf mathemateg

Dyma鈥檙 holl wybodaeth sydd ei hangen, ond mae鈥檔 anodd iawn ei dehongli. Er enghraifft, ydy hi鈥檔 hawdd dweud a gafodd mwy o blant farciau yn y \({20au}\) nag yn y \({30au}\)? Alli di ddweud yn syth beth oedd y marc uchaf, neu a gafodd mwy nag un person yr un canlyniad?

Un ffordd o gyfleu鈥檙 data er mwyn gallu ateb y cwestiynau hyn ydy mewn diagram brigyn a dail. Mae鈥檙 diagram hwn yn dangos yr un canlyniadau鈥檔 union 芒鈥檙 enghraifft uchod:

Diagram brigyn a dail

Mae鈥檙 rhifau fel arfer wedi eu trefnu:

Diagram brigyn a dail

Un rhes o ddiagram brigyn a dail: \({2}\) ydy鈥檙 brigyn, ac \({1},~{3},~{4},~{4},~{5}\) a \({7}\) ydy鈥檙 dail yn dangos y rhifau \({21},~{23},~{24},~{24},~{25},\) a \({27}\) yn eu trefn.

Gan ddefnyddio鈥檙 diagram brigyn a dail uchod, ateba鈥檙 cwestiynau canlynol.

Question

Sawl plentyn sgoriodd \({36}\)?

Question

Beth oedd y sg么r mwyaf cyffredin?

More guides on this topic