Cyfansoddiad yr atmosffer
Yr atmosffer cynnar
Mae gwyddonwyr yn credu bod y Ddaear wedi ffurfio tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn 么l, a bod gweithgarwch folcanig dwys wedi digwydd am y biliwn mlynedd gyntaf o fodolaeth y Ddaear. Mae'n debyg bod yr atmosffer cynnar wedi ffurfio o nwyon wedi'u allyrru o losgfynyddoedd. Carbon deuocsid, anwedd d诺r ac amonia sy'n ffurfio'r gyfran fwyaf o nwyon folcanig.
Wrth i'r Ddaear oeri, cyddwysoNewid mewn cyflwr yw cyddwysiad lle mae nwy yn troi鈥檔 hylif wrth oeri. y rhan fwyaf o'r anwedd d诺r i ffurfio'r cefnforoedd.
Rydyn ni'n meddwl bod atmosfferau Mawrth a Gwener heddiw, sy'n garbon deuocsid gan fwyaf, yn debyg i atmosffer cynnar y Ddaear.
Dydy gwyddonwyr ddim yn si诺r am yr atmosffer cynnar, ac maen nhw'n dibynnu ar dystiolaeth o ffynonellau eraill. Er enghraifft, mae llosgfynyddoedd yn rhyddhau llawer o garbon deuocsid. Mae cyfansoddynSylwedd sy'n cael ei ffurfio gan uniad cemegol dwy neu ragor o elfennau drwy ffurfio bond neu fondiau. haearn yn bodoli mewn creigiau hen iawn, ac allai'r rhain ddim bod wedi ffurfio oni bai bod ocsigen yn brin iawn neu ddim i'w gael ar y pryd.
Newidiadau i'r atmosffer
Felly sut aeth cyfran y carbon deuocsid, y methan a'r amonia yn yr atmosffer i lawr, a chyfran ocsigen i fyny?
- Cynyddodd cyfran yr ocsigen oherwydd ffotosynthesisProses gemegol a ddefnyddir gan blanhigion ac alg芒u i wneud glwcos ac ocsigen o carbon deuocsid a d诺r, gan ddefnyddio egni golau sydd wedi ei amsugno gan cloroffyl. Mae ocsigen yn cael ei gynhyrchu fel isgynnyrch ffotosynthesis. gan blanhigion.
- Lleihaodd cyfran yr amonia wrth iddo adweithio 芒'r ocsigen oedd newydd ffurfio yn yr atmosffer i ffurfio nitrogen ac anwedd d诺r.
- Lleihaodd cyfran y methan wrth iddo adweithio 芒'r ocsigen oedd newydd ffurfio i ffurfio carbon deuocsid a d诺r.
Lleihaodd cyfran y carbon deuocsid oherwydd:
- cafodd ei gloi mewn craig waddodolMath o graig sy鈥檔 ffurfio wrth i ddefnydd gael ei ddyddodi ar arwyneb y Ddaear. oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (fel calchfaen a sialc) ac mewn tanwydd ffosilTanwydd sydd wedi'i wneud o weddillion planhigion ac anifeiliaid hynafol, ee glo, olew a nwy naturiol.
- cafodd ei amsugno gan blanhigion ar gyfer ffotosynthesis
- roedd yn hydoddi yn y cefnforoedd
Mae llosgi tanwyddau ffosil yn ychwanegu carbon deuocsid at yr atmosffer yn gyflymach nag y gallwn ni ei dynnu oddi yno. Mae hyn yn golygu bod lefel carbon deuocsid yn yr atmosffer yn cynyddu.
Yr atmosffer cyfoes
Mae'r aer yn gymysgedd o nwyon. Mae faint o anwedd d诺r sydd yn yr aer yn amrywio o le i le, ac o ddydd i ddydd. Am y rheswm hwn, cyfrannau'r nwyon mewn aer sych rydyn ni'n eu rhoi fel arfer.
elfenSylwedd sydd wedi'i wneud o un math o atom yn unig. yw rhai o'r nwyon yn yr aer:
- nitrogen, N2
- ocsigen, O2
- argon, Ar
- neon, Ne
Mae'n bwysig nodi bod y nwyon hyn yn gallu cael eu hechdynnu o'r aer a'u defnyddio mewn sawl ffordd drwy ddefnyddio distyllu ffracsiynol.
Cyfansoddion yw rhai, gan gynnwys:
- carbon deuocsid, CO2
- anwedd d诺r, H2O