Sylffwr deuocsid a glaw asid
Mae pob glaw'n asid gwan oherwydd bod carbon deuocsid wedi hydoddi ynddo. Fodd bynnag, mae rhai llygryddion sy'n cael eu rhyddhau i'r atmosffer yn gallu achosi i'r glaw droi'n asidSylwedd cyrydol sydd 芒 pH is na 7. Mae asidedd yn cael ei achosi gan grynodiad uchel o 茂onau hydrogen. cryf.
Mae llawer o tanwydd ffosilTanwydd sydd wedi'i wneud o weddillion planhigion ac anifeiliaid hynafol, ee glo, olew a nwy naturiol. yn cynnwys amhureddau sylffwr. Wrth losgi'r tanwyddau hyn, mae'r sylffwr yn cael ei ocsidio i ffurfio sylffwr deuocsid.
S(s) + O2(n) 鈫 SO2(n)
Yna, mae'r sylffwr deuocsid hwn yn hydoddi mewn defnynnau d诺r glaw i ffurfio asid sylffwrig:
H2SO4
Pan mae tanwydd yn cael ei losgi mewn peiriannau cerbydau, mae'n cyrraedd tymheredd uchel. Ar y tymheredd uchel hwn, mae nitrogen ac ocsigen o'r aer yn cyfuno i gynhyrchu ocsidau nitrogen, sy'n cyfeirio at nifer o wahanol gyfansoddion sy'n ffurfio o adwaith cemegol nitrogen ac ocsigen.
Mae ocsidau nitrogen (y fformiwla ar gyfer y rhain gyda'i gilydd yw NOx) hefyd yn achosi glaw asidGlaw sy鈥檔 cynnwys nwyon asidig hydoddedig megis nitrogen ocsid a sylffwr deuocsid..
Y fformiwla ar gyfer nitrogen monocsid a nitrogen deuocsid gyda'i gilydd yw NOx.
Effeithiau glaw asid
Mae glaw asid yn adweithio 芒 metelau a chreigiau fel calchfaen. Mae hyn yn achosi difrod i adeiladau a cherfluniau, yn enwedig rhai sydd wedi'u gwneud o galchfaen (calsiwm carbonad). Mae glaw asid hefyd yn cynyddu cyfradd cyrydu adeileddau metel fel pontydd a cherfluniau.
Mae glaw asid yn niweidio'r haen gwyraidd ar ddail coed ac yn ei gwneud hi'n anoddach i goed amsugno'r mwynau sydd eu hangen i dyfu'n iach. Gallan nhw farw o ganlyniad i hyn.
Mae glaw asid hefyd yn gwneud afonydd a llynnoedd yn rhy asidig i rai rhywogaethau dyfrol oroesi.