大象传媒

TGCh mewn sefydliadau

Darllenydd codau bar

Mae codau bar yn cael eu cynrychioli gan farrau fertigol du ac yn cael eu darllen gan ddarllenydd codau bar. Mae codau bar wedi鈥檜 hargraffu ar bron bob peth rwyt ti鈥檔 ei brynu. Mae gan bob cynnyrch god unigryw. Pan mae鈥檔 cael ei ddarllen, mae gwybodaeth sydd wedi鈥檌 storio yng y siop yn cael ei hadalw, er enghraifft enw a phris y cynnyrch. Mae鈥檙 wybodaeth hon yn ymddangos ar dy dderbynneb yn nes ymlaen. Mae鈥檙 broses sganio hefyd yn helpu i reoli stoc, gan leihau鈥檙 stoc o un bob tro mae cynnyrch yn cael ei sganio/gwerthu.

Adnabod Nodau Inc Magnetig (MICR)

Mae nodau inc magnetig i鈥檞 gweld ar waelod sieciau. Mae banciau鈥檔 defnyddio MICR i ddarllen y rhifau sydd ar waelod sieciau, er mwyn cael data megis rhif cyfrif banc a chod didoli. Mae arbennig yn cael ei defnyddio. Mae鈥檙 ffont hon yn ei gwneud hi鈥檔 hawdd i鈥檙 peiriant wahaniaethu rhwng nodau. Mae鈥檙 inc wedi鈥檌 fagneteiddio. Mae hyn yn sicrhau nad yw crychiadau a marciau budr yn effeithio arno.

More guides on this topic