大象传媒

Arian electronig a masnach electronig

Mae鈥檙 rhan fwyaf o gwmn茂au yn talu eu gweithwyr drwy drosglwyddiad banc, o gyfrif y cwmni i gyfrif y gweithiwr. Mae talu ag arian parod yn anghyffredin y dyddiau hyn.

Fel arfer rydym yn talu am nwyddau a gwasanaethau drwy ddulliau talu electronig, er enghraifft:

  • debyd uniongyrchol
  • archeb sefydlog
  • cardiau debyd (Switch/Delta)
  • cardiau clyfar
  • trosglwyddiad banc ar-lein

Masnach Electronig

Ystyr Masnach Electronig neu e-fasnach yw prynu a gwerthu nwyddau neu wasanaethau dros y .

Mae e-fasnach yn cynnig manteision ac anfanteision i fusnesau a chwsmeriaid.

Manteision i fusnesau

  • Sylfaen gwsmeriaid ehangach 鈥 drwy greu gall siop leol gael sylfaen gwsmeriaid ryngwladol.
  • Cost-effeithiol 鈥 arbed costau staffio siop (neu siopau) ar y stryd fawr a鈥檙 costau cysylltiedig, er enghraifft rhent, trydan, nwy, d诺r ac yn y blaen.
  • Gwasanaethau - mae gwasanaethau, er enghraifft cyfrifyddiaeth, yn addas i gael eu hysbysebu ar-lein. Mae鈥檔 bosibl rhestru manylion yr hyn sy鈥檔 cael ei gynnig ar y wefan, gan leihau鈥檙 angen i ymgynghori yn y byd go iawn.

Anfanteision i fusnesau

Cynnyrch sydd ar gael i鈥檞 prynu ar y rhyngrwyd.
  • Mwy o gystadleuaeth - mae cystadleuaeth a oedd ar un adeg wedi鈥檌 chyfyngu i siopau lleol eraill bellach ar raddfa ryngwladol.
  • Newydd-ddyfodiaid - efallai y bydd defnyddwyr yn gyndyn i brynu gan gwmni nad ydyn nhw wedi clywed amdano.
  • Araf yn mabwysiadu - efallai y bydd cwmn茂au鈥檔 cael anhawster i gael cyfran o鈥檙 farchnad os oes gan eu cystadleuwyr bresenoldeb ar-lein yn barod.

Manteision i gwsmeriaid

  • Mwy hwylus - mae cwsmeriaid yn gallu dod o hyd i鈥檙 hyn maen nhw鈥檔 chwilio amdano heb adael eu cartrefi.
  • Mwy o ddewis - erbyn hyn nid yw cwsmeriaid wedi鈥檜 cyfyngu i siopau cyfagos a gallant hyd yn oed brynu o dramor.
  • Cost-effeithiol - mae cystadleuaeth ar raddfa ryngwladol yn aml yn golygu bod prisiau yn is/mwy cystadleuol.
  • Manylion cynnyrch - mwy o wybodaeth ar gael ar-lein na鈥檙 hyn y gall aelod o鈥檙 staff ei roi yn y siop.
  • Adolygiadau cwsmeriaid - mae llawer o safleoedd yn caniat谩u i gwsmeriaid adolygu cynnyrch neu wasanaethau maen nhw wedi鈥檜 prynu, gan roi mwy o hyder i brynwyr.

Anfanteision i gwsmeriaid

  • Dim rhyngweithio 芒 phobl - mae鈥檔 well gan rai pobl brynu eu nwyddau neu wasanaethau wyneb yn wyneb.
  • Dychwelyd nwyddau - gall fod yn anghyfleus (trefnu i bostio) ac yn ddrud (os yw鈥檙 eitem yn fawr/trwm).
  • Twyll - gall gwefan gymryd arian cwsmer, heb unrhyw fwriad i ddanfon y nwyddau.
  • Problemau stoc - mae鈥檔 bosibl na fydd eitem mewn stoc, neu os yw eitem yn cael ei harchebu a bod rhywun yn gweld yn nes ymlaen nad yw mewn stoc, mae鈥檔 bosibl y bydd eitem arall yn cael ei hanfon yn lle鈥檙 un wreiddiol.

More guides on this topic