Bancio ar-lein
Mae pob un o fanciau鈥檙 stryd fawr yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein, ac mae rhai banciau sydd ar-lein yn unig heb unrhyw ganghennau ar y stryd fawr.
Gwasanaethau
Gall cwsmer sydd 芒 mynediad at wasanaeth bancio ar-lein:
- edrych faint o arian sydd ganddo yn y banc
- gweld/argraffu datganiadau banc cyfredol a blaenorol
- talu biliau ar-lein, hynny yw sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog
- creu cyfrifon newydd, ar wah芒n at ddibenion penodol, er enghraifft cynilion
- trosglwyddo arian rhwng ei gyfrifon ei hun ac i gyfrif rhywun arall
Manteision i gwsmeriaid
- Hwylus - bancio pan mae鈥檔 gyfleus iddyn nhw, 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn o unrhyw gyfrifiadur sydd 芒 cysylltiad rhyngrwydCysylltiad 芒鈥檙 rhyngrwyd gan gyfrifiadur neu ddyfais sy鈥檔 gallu defnyddio鈥檙 rhyngrwyd..
- Cyfraddau llog uwch - mae arbedion y mae banciau鈥檔 eu gwneud drwy lai o gostau staff, llai o safleoedd a mwy o awtomeiddio yn golygu eu bod yn gallu cynnig cyfraddau llog uwch.
- Mwy o ymwybyddiaeth o鈥檙 farchnad - edrych ar bob banc i weld pa gyfraddau llog maen nhw鈥檔 eu cynnig ar-lein.
Pryderon cwsmeriaid
- Cau canghennau bach, lleol neu leihau oriau agor.
- Diogelwch bancio ar-lein, yn fwyaf penodol hacioCael mynediad i gyfrifiadur heb ganiat芒d. a thwyll cardiau credyd.
- Lleihau nifer y staff.
Wrth i fancio fynd yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg mae鈥檙 pryderon hyn yn debygol o gynyddu.