Faciw卯s a鈥檙 cymunedau newydd yng Nghymru
Roedd rhyfel yn edrych yn dra thebygol o 1938 ymlaen, felly dechreuodd y Llywodraeth gynllunio sut i amddiffyn pobl oedd yn agored i niwed ac oedd angen eu symud o鈥檙 dinasoedd i gefn gwlad. Er enghraifft, symudwyd plant, merched beichiog a phobl ag anableddau i ardaloedd mwy diogel, a elwid yn ardaloedd lletyol.
Dechreuodd faciw卯s gyrraedd ar 1 Medi 1939, pan symudwyd pobl i ardaloedd mwy diogel yng nghefn gwlad neu i ardaloedd oedd yn llai tebygol o gael eu targedu gan fomwyr yr Almaen. Roedd plant oedd yn faciw卯s yn cael eu rhoi gyda theuluoedd lletyol. Cafodd llawer o ysgolion y dinasoedd eu cau, ac aeth yr athrawon gyda鈥檙 plant er mwyn parhau i鈥檞 haddysgu.
Roedd hon yn dasg enfawr wrth i tua 1.5miliwn o bobl symud o gwmpas y wlad er mwyn chwilio am ddiogelwch yn ystod y don gyntaf. Yn ystod y 鈥楻hyfel Ffug鈥, aeth nifer o鈥檙 faciw卯s yn 么l adref, dim ond i ddychwelyd pan ddechreuodd y Blitz.
Yng nghwm Rhondda, cafodd 33,500 o faciw卯s o Lundain, Caerdydd a Bryste loches yng nghartrefi pobl leol.
Roedd profiadau鈥檙 faciw卯s yn gymysg.
- Roedd nifer yn cael eu croesawu ac yn teimlo鈥檔 rhan o鈥檙 teulu.
- Roedd rhai yn mwynhau gwell safon bywyd nag a gawson nhw cyn y rhyfel.
- Cafodd rhai eu cam-drin.
- Roedd rhai yn gwlychu eu gwelyau ac yn cael hunllefau.
- Roedd rhai yn cael eu defnyddio fel gweithwyr di d芒l.
- Dysgu iaith newydd - nid oedd pawb yng Nghymru yn siarad Saesneg, ac ar y cychwyn nid oedd faciw卯s o Loegr yn gallu siarad Cymraeg.
- Roedd rhai wedi cadw mewn cysylltiad ar 么l y rhyfel.