大象传媒

Bywyd amser rhyfelYr angen am ddogni

Ar 么l i鈥檙 rhyfel ddechrau ym Medi 1939, roedd bywyd ar fin newid yn sylweddol i Brydain, ei lluoedd arfog a鈥檌 dinasyddion. Sut wnaeth pobl Prydain ymdopi 芒鈥檙 profiad o ryfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Yr angen am ddogni

Yn ystod amser rhyfel roedd yn bwysig defnyddio rheolyddion prisiau er mwyn atal gorelwa (profiteering), ond hefyd er mwyn sicrhau nad oedd Prydain yn mynd yn brin o鈥檙 eitemau angenrheidiol. Roedd cyflenwadau Prydain hefyd dan fygythiad o gyfeiriad llongau tanfor yr Almaen. Ym mis Mawrth 1942 yn unig, suddodd yr Almaenwyr 275 o longau.

Cafodd eitemau bwyd sylfaenol, cig, menyn a siwgr eu dogni o Ionawr 1940. Doedd pobl ddim yn gallu prynu nwyddau heb y cwponau dogni.

Enghraifft o lwfans wythnosol unigolyn.

Yr eitemau ar gyfer un person yn ystod dogni 鈥 2 owns o ddail te, 4 owns o marjar卯n, 1 owns o gaws, 2 owns o fenyn, un wy ffres, 8 owns o siwgr.
Figure caption,
Enghraifft o eitemau bwyd wythnosol unigolyn

Effeithiau dogni

Bu rhaid i bob cartref gwblhau ffurflen gyda manylion y bobl oedd yn byw yno ar 29 Medi 1939 sef Diwrnod Cofrestru Cenedlaethol. Roedd llawer o bobl yn cas谩u鈥檙 cyfyngiadau ar faint y gallen nhw ei brynu. Roedd rhai gweithwyr corfforol, yn cynnwys glowyr a llafurwyr, yn derbyn dognau ychwanegol, a gofalwyd bod eitemau megis llaeth ac olew iau penfras yn cael ei gynnig i blant a鈥檙 henoed.

Cafodd yr Arglwydd Woolton ei benodi鈥檔 Weinidog Bwyd a bu鈥檔 goruwchwylio鈥檙 gwaith o gyflwyno鈥檙 rhaglen ddogni. Cafodd ymgyrchoedd fel 鈥楧ig for Victory鈥 eu cyflwyno hefyd.

Parhaodd dogni rhai eitemau bwyd am 14 blynedd. Yn ddiddorol, roedd dogni wedi gwella deiet nifer o bobl, oherwydd bod y dogni鈥檔 cynnwys rhestr wythnosol o eitemau bwyd penodol, ac o ganlyniad i hynny roedd rhai pobl yn bwyta bwyd iachach.

Tyfodd y wrth i rai gwerthwyr werthu鈥檙 eitemau dogni yma am brisiau llawer uwch. Roedd y bobl yma yn dogni.

Llyfr dogni gydag enw a manylion personol ar y clawr. Y tu mewn, ceir gwybodaeth am fanwerthwyr a sgwariau wedi鈥檜 rhifo gyda stampiau ar rai o鈥檙 rhifau.
Image caption,
Llyfrau dogni