Yn 1687, creodd Isaac Newton dair deddf mudiant i ddisgrifio'r berthynas rhwng corff a'r grymoedd sy'n gweithredu arno, a sut mae'r corff yn symud fel ymateb i'r grymoedd hynny.
Mae Deddf Gyntaf Newton yn datgan y bydd corff yn aros yn llonydd neu mewn mudiant unffurfBuanedd cyson mewn llinell syth, neu gyflymder cyson., mewn llinell syth oni bai bod grym cydeffaithGrym sengl sy'n gallu cymryd lle'r holl rymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae'n cael ei gyfrifo trwy adio'r cyfan gyda'i gilydd. Os yw鈥檙 holl rymoedd yn gytbwys, yna sero yw鈥檙 grym cydeffaith. neu net yn gweithredu arno.
Yn syml, mae hyn yn golygu nad yw grymoedd cytbwys yn cael effaith ar fudiant gwrthrych o gwbl.
Gallai fod yn llonydd.
Gallai fod yn symud ar gyflymder cyson (buanedd cyson mewn llinell syth).
Gallai fod yn hofran neu'n arnofio.
Mae鈥檙 grymoedd sy'n gweithredu ar y car yn gytbwys. Mae鈥檙 gwthiad yn hafal a dirgroes i鈥檙 llusgiad. Does dim grym net (cydeffaith) oherwydd mae'r grymoedd yn adio i sero.
Bydd y car yn symud ar fuanedd cyson mewn llinell syth.