Buanedd terfynol
Gwrthrychau mewn d诺r neu aer
Pan mae gwrthrychau'n symud yn gyflymach mewn aer (neu dd诺r), mae gwrthiant aer neu rymoedd llusgoGrym ffrithiant sy鈥檔 mynd yn erbyn symudiad gwrthrych yn yr aer neu mewn d诺r. Mae鈥檙 gwrthiant y cilogram dibynnu ar fuanedd y gwrthrych a鈥檌 arwynebedd arwyneb. yn cynyddu. Wrth i'r grymoedd llusgo gynyddu, mae'r grym cydeffaith yn lleihau. Pan mae'r grymoedd llusgo yn cyrraedd yr un maint 芒'r pwysau neu'r gwthiad, bydd y grymoedd yn gytbwys (hafal a dirgroes). Bryd hynny, does dim grym cydeffaith ac mae'r gwrthrych yn stopio cyflymu, ond mae'n dal i symud ar fuanedd cyson. Rydyn ni'n galw'r buanedd cyson hwn yn fuanedd terfynol neu cyflymder terfynolCyflymder uchaf/mwyaf gwrthrych, sy鈥檔 cael ei gyrraedd pan fydd y grymoedd sy鈥檔 symud y gwrthrych yn cael eu gwrthbwyso gan ei rymoedd ffrithiannol. .
Question
Wrth i ddeifiwr awyr symud drwy'r aer, beth sy'n aros yn gyson, y pwysau neu'r llusgiad?
Y pwysau. Mae'r llusgiad yn newid gyda buanedd y deifiwr awyr.
Question
Edrych ar luniau A, B, ac C. Cyfrifa rym cydeffaith y deifiwr awyr, a'r cyflymiad os yw m脿s y deifiwr awyr yn 60 kg.
Llun A
Y grym cydeffaith yw 600N. Y cyflymiad fydd,
a = F 梅 m
= 600 N 梅 60 kg
= 10 m/s2
Hwn yw'r cyflymiad oherwydd disgyrchiant.
Llun B
Y grym cydeffaith yw 600 鈥 100 = 500 N.
Y cyflymiad fydd,
a = F 梅 m
= 500 N 梅 60 kg
= 8.3 m/s2
Sylwa fod y cyflymiad yn mynd yn llai wrth i'r llusgiad ddechrau cynyddu.
Llun C
Y grym cydeffaith yw 600 鈥 600 = 0 N.
Bydd y cyflymiad yn sero, am nad oes grym cydeffaith.