Graff cyflymder-amser
Graff cyflymder-amser
Os yw graff cyflymder-amser y mudiant yn dangos llinell sy'n codi neu'n mynd i lawr, mae hyn yn golygu bod y cyflymder yn newid. Felly, mae'n rhaid bod y grymoedd sy'n gweithredu'n anghytbwys, ac mae'r deifiwr awyr yn cyflymu neu'n arafu.
Ail Ddeddf Newton
Mae llinell sy'n codi yn golygu bod y deifiwr awyr yn cyflymu. Mae grym y pwysau'n fwy na'r llusgiad, ac mae'r grym cydeffaith yn achosi'r cyflymiad. Os yw'r llinell yn llorweddol, mae'r buanedd yn gyson. Hwn yw'r buanedd terfynol. Mae鈥檙 grymoedd sy'n gweithredu yn gytbwys ar y buanedd terfynol. Mae'r llusgiad yn hafal i'r pwysau, felly does dim grym cydeffaith i achosi cyflymiad.
Beth sy'n creu gwrthiant aer neu lusgiad?
Pan mae gwrthrych yn symud drwy'r aer, mae'n gwrthdaro 芒 moleciwlau aer. Mae hyn yn achosi ffrithiant rhwng y gwrthrych a'r moleciwlau aer. Mae鈥檙 ffrithiant hwn yn trawsnewid rhywfaint o egni cinetig y gwrthrych i wres. Hefyd, mae'r moleciwlau aer yn adlamu oddi ar y gwrthrych, gan ennill egni cinetig.
Pam mae'r llusgiad yn cynyddu gyda buanedd?
Y cyflymaf y mae gwrthrych yn symud, y nifer mwyaf o wrthdrawiadau fydd 芒 moleciwlau aer. Mae hyn yn cynyddu ffrithiant, ac mae'r moleciwlau aer sy'n adlamu i ffwrdd yn ennill mwy fyth o egni cinetig.
1 of 2
Yr arwynebedd o dan y graff yw'r pellter teithio. Bydd hwn yn hafal i uchder yr awyren y neidiodd y deifiwr ohoni.
Question
Mae darn arian, pluen a bricsen yn cael eu gollwng oddi ar bont i mewn i afon. Ym mha drefn maen nhw'n taro'r d诺r? Sut byddai'r drefn yn newid pe bai'r arbrawf yn cael ei ailadrodd mewn gwactod?
Yn yr awyr agored, y darn arian fyddai'n taro'r d诺r gyntaf, yna'r fricsen ac yn olaf y bluen. Mae'r darn arian yn fwy llyfn na'r fricsen a'r bluen, felly mae llai o wrthiant aer ar y darn arian. Mae'r bluen yn ysgafn ac mae ganddi hi arwynebedd arwyneb cymharol fawr, felly mae hi'n cyrraedd ei chyflymder terfynol yn gyflym.
Mewn gwactod, lle nad oes gwrthiant aer, byddai'r tri gwrthrych yn taro'r d诺r ar yr un pryd. Maen nhw i gyd yn cyflymu ar yr un gyfradd, a dydy hyn ddim yn dibynnu ar eu m脿s na'u maint.
Mudiant llorweddol mewn aer
Mae cyflymder terfynol hefyd yn gallu bod yn berthnasol i fudiant llorweddol:
- mae car yn cyflymu tuag ymlaen os yw'r gwthiad yn fwy na'r llusgiad
- wrth i'r car gyflymu mae'r llusgiad yn cynyddu, gan leihau'r grym cydeffaith
- pan mae'r llusgiad yn hafal i'r gwthiad, does dim grym cydeffaith
- mae鈥檙 grymoedd yn gytbwys, ac mae'r car yn teithio ar fuanedd terfynol