大象传媒

Deddfau NewtonTrydedd Ddeddf Newton

Yn 1687, creodd Isaac Newton dair deddf mudiant i ddisgrifio'r berthynas rhwng corff a'r grymoedd sy'n gweithredu arno, a sut mae'r corff yn symud fel ymateb i'r grymoedd hynny.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Trydedd Ddeddf Newton

Grymoedd arwaith ac adwaith

Mewn geiriau eraill, os yw corff A yn rhoi grym ar gorff B, mae B yn rhoi grym hafal a dirgroes ar A. Er enghraifft, os yw car A yn taro car B 芒 grym o 10,000 N, mae car B yn rhoi grym o 鈥10,000 N yn 么l ar gar A.

Trydedd Ddeddf Newton

Rhagor o enghreifftiau

Pan mae merch yn neidio i'r lan oddi ar gwch, mae'r cwch yn symud yn 么l. Hwn yw'r adwaith (cwch yn symud yn 么l) i'w harwaith hi (neidio).

Pan mae clicied gwn yn cael ei thynnu, mae'r gwn yn rhoi grym ar y bwled neu'r belen, gan ei gwthio hi ymlaen. Mae'r bwled yn rhoi grym ar y gwn, gan ei wthio yn 么l. Yr adlam yw hwn.

Wrth lansio roced, mae'r peiriannau'n rhoi grym ar y nwyon i'w gwthio nhw yn 么l. Mae'r nwy gwac谩u yn rhoi grym ar beiriannau'r roced i wthio'r roced ymlaen.