Mynegi rhifau fel ffracsiynau a chanrannau
Mynegi un gwerth fel ffracsiwn o un arall
Mewn o gr诺p dosbarth o 20 person, mae pum person wedi dewis astudio TGAU Celf. Pa ffracsiwn o鈥檙 dosbarth fydd yn astudio TGAU Celf?
Mae pum person o gyfanswm o 20. Gallwn ysgrifennu hyn fel \(\frac {5} {20}\).
Gallwn symleiddio鈥檙 ffracsiwn hwn trwy rannu鈥檙 rhifiadur a鈥檙 enwadur 芒鈥檙 un gwerth:
\(\frac {5 \div 5} {20 \div 5}~=~\frac {1} {4}\)
Question
Mae 30 diwrnod ym mis Mehefin, a glawiodd am wyth ohonyn nhw.
Ysgrifennwn hyn fel \(\frac {8} {30}\)
Gall hyn wedyn gael ei symleiddio i:
\(\frac {8 \div 2} {30 \div 2}~=~\frac {4} {15}\)
Er enghraifft, ni allwn gymharu amser mewn munudau a nifer o oriau. Rhaid i ni鈥檔 gyntaf drawsnewid yr amser mewn oriau i funudau.
Rydyn ni fel arfer yn newid i鈥檙 uned leiaf er mwyn osgoi gorfod gweithio 芒 degolion.
Question
Mae Johnny 20 munud yn hwyr i weld ffilm sy鈥檔 ddwy awr o hyd. Pa ffracsiwn o鈥檙 ffilm mae e'n ei fethu?
\(\frac {1} {6}\)
2 awr = 2 脳 60 = 120 munud.
\(\frac {20} {120}~=~\frac {2} {12}~=~\frac {1} {6}\)
Mynegi un gwerth fel canran o un arall
Unwaith y byddi di wedi mynegi鈥檙 swm fel ffracsiwn o un arall, mae鈥檔 bosib ei drawsnewid i ganran.
Dull 1
Mewn pentwr o 32 grawnwin, mae 4 wedi llwydo. Pa ganran o鈥檙 grawnwin sydd wedi llwydo?
- Mynega hyn fel ffracsiwn: \(\frac {4} {32}~=~\frac {2} {16}~=~\frac {1} {8}\)
- Rhanna鈥檙 rhifiadur 芒鈥檙 enwadur: 1 梅 8 = 0.125
- Lluosa 芒 100 i drawsnewid i %: 0.125 脳 100% = 12.5%
Dull 2
Dw i'n derbyn 拢25 o arian poced ac yn gwario 拢7. Pa ganran yw hyn?
- Mynega hyn fel ffracsiwn: \(\frac {7} {25}\)
- Defnyddia ffracsiynau cywerth er mwyn cael yr enwadur yn 100: \(\frac {7 \times 4} {25 \times 4}~=~\frac {28} {100}\)
- Ysgrifenna hyn fel canran: 28%.
Canfod cynnydd canrannol
Mae 15 pysgodyn yn byw mewn tanc pysgod. Ar 么l blwyddyn mae鈥檙 pysgod wedi bridio ac mae yna 20 pysgodyn yno nawr. Beth yw canran y cynnydd yn nifer y pysgod?
- Cyfrifa鈥檙 newid: 20 鈥 15 = 5
- Mynega鈥檙 newid fel canran o鈥檙 gwerth gwreiddiol: \(\frac {5} {15}~=~\frac {1} {3}~=~{0.333}~=~{33.3\percent}~{o~gynnydd}\)
Canfod lleihad canrannol
Ar ddydd Llun, roedd 45 siocled mewn blwch. Erbyn dydd Gwener, dim ond 12 oedd ar 么l. Cyfrifa鈥檙 newid canrannol.
- Cyfrifa鈥檙 newid: 45 鈥 12 = 33
- Mynega鈥檙 newid fel canran o鈥檙 gwerth gwreiddiol: \(\frac {33} {45}~=~{0.7333333333}~=~{73.3\percent}~{o~leihad}(i~un~lle~degol)\)