Newid canrannol – haenau canolradd ac uwch
Cynyddu neu leihau yn ôl canran benodol
- Cyfrifa’r ganran dan sylw
- Adia neu tynna’r ganran fel bo’r angen
Question
Mae landlord yn codi ei brisiau rhent 5%. Faint fydd fflat dwy ystafell wely sy’n £350 y mis yn ei gostio ar ôl y cynnydd?
£367.50
10% o £350 = £35
5% = £17.50
£350 + £17.50 = £367.50
Question
Mae siop yn tynnu 15% oddi ar bris eu holl stoc. Faint fyddai siaced, a oedd yn costio £60, nawr yn ei gostio yn y sêl?
£51
10% o £60 = £6
5% = £3
15% = £9
£60 - £9 = £51
Canfod y gwerth gwreiddiol ar ôl cynnydd canrannol
Enghraifft
Mae potel o lemonêd nawr yn hysbysebu ei bod 50% yn fwy. Os yw’n 750 ml nawr, beth oedd ei chyfaint gwreiddiol?
Ateb
- Cychwynna gyda’r cyfaint gwreiddiol yn 100%
- Mae’r cyfaint newydd 50% yn fwy na hyn: 100% + 50% = 150%
- 150% = 750 ml. Gallwn rannu â 150 i ganfod 1%
- 1% = 5 ml. Gallwn nawr luosi â 100 i ganfod 100%, sef y cyfaint gwreiddiol
- 100% = 500 ml
Question
Ar ôl codi 9% yn ei bris, mae teledu’n costio £495. Faint oedd e’n ei gostio’n wreiddiol?
£454.13
109% = £495 (nawr rhanna â 109)
1% = 4.541284404
100% = £454.13 (i’r geiniog agosaf)
Canfod y gwerth gwreiddiol ar ôl lleihad canrannol
Enghraifft
Mae 20% o’r afalau mewn cynhaeaf wedi llwydo ac yn cael eu taflu, gan adael 360 o afalau da. Faint oedd yn y cynhaeaf?
Ateb
- Cychwynna gyda’r cynhaeaf gwreiddiol yn 100%
- Mae’r afalau nawr 20% yn llai: 100% - 20% = 80%
- 80% = 360 afal. Gallwn rannu ag 80 i ganfod 1%
- 1% = 4.5 afal. Os byddwn ni nawr yn lluosi â 100, byddwn yn canfod 100%, sef maint y cynhaeaf gwreiddiol.
- 100% = 450 afal
Question
60 gram.
100% - 15% = 85%
85% = 51 g (nawr rhanna ag 85)
1% = 0.6 g (nawr lluosa â 100)
100% = 60 g