大象传媒

Achosion troseddEffaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif

Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn troseddu. Mae rhai o鈥檙 achosion yma wedi bodoli erioed, megis trachwant, tlodi a chaledi economaidd. Mae achosion trosedd eraill wedi newid ers 1500. Beth oedd prif achosion trosedd dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Effaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif

Oes y Stiwartiaid

Gorchmynnodd Iago I y dylid dirwyo Catholigion nad oedd yn mynychu gwasanaethau (Protestanaidd) Eglwys Lloegr, ac adroddwyd ei fod yn cas谩u鈥檙 grefydd Gatholig. Arweiniodd hynny at fwy o wrthwynebiad yn ei erbyn ymysg Catholigion, oedd yn cynnwys Brad y Powdr Gwn yn 1605, sef yr ymgais i ladd y brenin a ffrwydro鈥檙 Senedd. Daliwyd y cynllwynwyr a鈥檜 dienyddio am deyrnfradwriaeth.

Llun o Guy Fawkes ar ei bengliniau gyda鈥檌 freichiau wedi鈥檜 clymu tu 么l i鈥檞 gefn yn cael ei gwestiynu gan griw o ddynion.
Image caption,
Guto Ffowc, un o gynllwynwyr y powdr gwn, yn cael ei holi gan Iago I ac aelodau o'i Gyfrin Gyngor

Yn ystod oes y Stiwartiaid, cynyddodd mewn poblogrwydd. Ar 么l dienyddio Siarl I yn 1649, roedd y Piwritan Oliver Cromwell yn Arglwydd Amddiffynnydd ac roedd y Senedd wedi ei meddiannu gan Biwritaniaid.

Arweiniodd hynny at gyfres o ddeddfau oedd yn ceisio gorfodi syniadau Piwritanaidd, ac roedd methu 芒 dilyn y deddfau hyn yn heresi:

  • gwaharddwyd chwarae p锚l-droed ar y Sul
  • gwaharddwyd trin gwallt neu farf ar y Sul
  • gwaharddwyd rhegi
  • Dil毛wyd diwrnod y Nadolig yn 1652. Hefyd, roedd dathlu鈥檙 Pasg a鈥檙 Sulgwyn yn anghyfreithlon

Ar 么l adfer y frenhiniaeth gyda Siarl II ym Mai 1660, diddymwyd y deddfau Piwritanaidd caeth.

Dewiniaeth

Roedd dewiniaeth yn drosedd tan 1735, a鈥檙 gosb am hynny oedd marwolaeth yn ystod oes y Tuduriaid a鈥檙 Stiwartiaid. Ystyriwyd bod gwrachod yn weision i鈥檙 diafol ar y ddaear. Yn aml, roedd diffyg dealltwriaeth pobl yn achosi iddyn nhw gredu bod pethau drwg yn waith y diafol neu wrachod. Ysgrifennodd y Brenin Iago I lyfr ar ddewiniaeth gan awgrymu ffyrdd o鈥檜 hadnabod a鈥檜 dal.

Roedd pob brenin neu frenhines yn ceisio sicrhau bod pawb yn dilyn eu deddfau crefyddol. Felly roedd dewiniaeth yn bryder i Gatholigion a Phrotestaniaid. Amcangyfrifir bod hyd at 1,000 o bobl, a merched yn bennaf, wedi cael eu dienyddio am ddewiniaeth mewn cyfnod o 200 mlynedd. Yn ystod y 1640au bu erlid gwrachod sylweddol yn Essex dan arweiniad yr erlidiwr gwrachod, Matthew Hopkins.

Gwraig amheus yn cael ei gostwng i'r d诺r i ddarganfod a fyddai hi'n goroesi ac felly'n cael ei ystyried yn wrach.
Image caption,
Prawf dewiniaeth yn Lloegr, 17eg ganrif. Gwraig amheus yn cael ei gostwng i'r d诺r i ddarganfod a fyddai hi'n goroesi ac felly'n cael ei ystyried yn wrach