Lladrata pen ffordd a smyglo
Lladrata pen ffordd
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, cynyddodd masnach dramor. Roedd nifer o鈥檙 nwyddau oedd yn cael eu cynhyrchu mewn ffatr茂oedd ym Mhrydain yn cael eu hallforio dramor.
Gwellodd trafnidiaeth, o ganlyniad i ffyrdd tyrpeg, camlesi a datblygu鈥檙 rheilffordd. Arweiniodd y dulliau trafnidiaeth newydd yma at gyfleoedd newydd i droseddu, megis lladrata pen ffordd.
Roedd lladrata pen ffordd yn drosedd oedd ar gynnydd yn y 18fed ganrif.
- Roedd yna fwy o ffyrdd a mwy o bobl yn teithio nag yn ystod y canrifoedd blaenorol.
- Roedd nifer o鈥檙 ffyrdd yn mynd drwy ardaloedd agored, ynysig, ble鈥檙 oedd yn hawdd dwyn oddi ar bobl a dianc.
- Ar ddiwedd y rhyfeloedd Napoleonig, roedd nifer o gynfilwyr yn cael trafferth canfod gwaith, ac felly roedden nhw'n troi at ladrata pen ffordd.
- Roedd ambell tafarn neu westy ar hyd y ffyrdd er mwyn i deithwyr allu aros ynddyn nhw. Roedd y rhain yn cynnig cyfle i鈥檙 lladron pen ffordd guddio neu werthu eu hysbail.
- Roedd ceffylau yn rhad i鈥檞 prynu ac roedd hi鈥檔 hawdd cael gafael ar ddrylliau o ganlyniad i鈥檙 newidiadau diwydiannol ac amaethyddol.
- Daeth marsiandwyr yn gyfoethog o ganlyniad i鈥檙 Chwyldro Diwydiannol. Yn aml byddai teithwyr yn cario llawer o nwyddau gwerthfawr ar hyd y ffyrdd oherwydd mai ychydig o fanciau oedd yn bodoli'r adeg honno.
Smyglo
Smyglo yw masnachu nwyddau yn anghyfreithlon er mwyn osgoi talu tollau a threthi. Roedd yn rhaid i fasnachwyr a dynion busnes dalu:
- Toll gartref - treth ar nwyddau gaiff eu cynhyrchu a鈥檜 defnyddio mewn gwlad. Roedd y dreth yn cael ei rhoi ar de, cwrw, seidr, halen, lledr a sebon.
- Tolldal - treth ar nwyddau gaiff eu hallforio a鈥檜 mewnforio.
Roedd Tollau gartref a Tholldaliadau yn uchel yn ystod y 18fed ganrif oherwydd bod y llywodraeth yn ceisio codi arian er mwyn talu am y rhyfel 芒 Ffrainc. Smyglo oedd y drosedd o ddod 芒 nwyddau i mewn i鈥檙 wlad yn anghyfreithlon heb dalu鈥檙 trethi.
Achosion y cynnydd yn y drosedd o smyglo
- Roedd trethi a thollau yn codi.
- Gallai nwyddau a smyglwyd i鈥檙 wlad wneud elw mawr ar y marchnad dduGwerthu nwyddau yn anghyfreithlon..
- Roedd nwyddau wedi鈥檜 smyglo yn boblogaidd ymysg pobl oherwydd roedden nhw fel arfer yn rhatach na nwyddau a fewnforiwyd yn gyfreithlon. Nid oedd pobl yn tueddu i ystyried bod smyglo yn drosedd ddifrifol. Roedd pobl leol yn cefnogi smyglo.
- Roedd yna filoedd o filltiroedd o arfordir ym Mhrydain, a鈥檙 rhan fwyaf ohono ddim yn cael ei warchod ac yn cael ei blismona鈥檔 wael.
- Roedd smyglo hefyd yn eithaf cyffrous ac roedd yn ffordd gyflym o wneud arian.
- Buddsoddwyr - roedd yna nifer o bobl yn buddsoddi arian mewn sefydlu gangiau smyglo.