Achosion anrhefn yn yr 20fed ganrif
Mewnfudo a hil
Yn 1911 roedd yna reiat yng Nghaerdydd pan ymosodwyd ar bobl Tsieineaidd am beidio ag ymuno 芒 streic. Yn yr un flwyddyn, roedd yr aflonyddwch a鈥檙 casineb yn Nhredegar a nifer o drefi eraill Sir Fynwy wedi'u hanelu at y gymuned Iddewig. Ymosodwyd ar longwyr du yn 1919 mewn nifer o ddinasoedd ar draws y DU yn cynnwys Caerdydd, Casnewydd a'r Barri.
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, anogwyd pobl o'r Carib卯 i fyw ac i weithio yn y DU. Glaniodd yr Empire Windrush yn Lloegr ym mis Mehefin 1948 gyda 492 o deithwyr arni. Roedd pobl ifanc tlawd, gwyn yn genfigennus ac yn teimlo eu bod o dan fygythiad gan y newydd-ddyfodiaid, felly ym mis Awst 1958, gwelwyd terfysgoedd. Ymosododd dros 300 o bobl ifanc gwyn a elwid yn Teddy Boys ar gartrefi trigolion India鈥檙 Gorllewin yn ardal Notting Hill yn Llundain. Cafodd dros 140 eu harestio yn ystod pythefnos o aflonyddwch.
Drwgdeimlad rhwng sifiliaid a鈥檙 heddlu
Dechreuodd Reiadau Toxteth yn 1981 o ganlyniad i anghydfod ynghylch arestio beiciwr modur du a gyhuddwyd o drosedd traffig.
Diweithdra a gofid economaidd
Roedd y rhan fwyaf o鈥檙 reiadau yn digwydd mewn ardaloedd difreintiedig megis Toxteth, Lerpwl a Brixton, Llundain.