ý

Loci a gwneud lluniadauLlunio loci – haenau canolradd ac uwch

I wneud lluniadau, bydd angen pensil, pren mesur a phâr o gwmpasau. Defnyddir loci i ganfod ardaloedd sy’n bodloni meini prawf megis pellter penodol oddi wrth bwynt neu hanner ffordd rhwng dwy linell.

Part of Mathemateg RhifeddGeometreg a Mesur

Llunio loci – haenau canolradd ac uwch

I lunio o amgylch pwynt, rhaid i ti’n gyntaf lunio’r llinell ac yna tywyllu’r rhan briodol, gan ddibynnu ar y cwestiwn.

Question

Mae ci ar dennyn sy’n mesur 3 m o hyd. Mae’r pen arall ynghlwm wrth bostyn yng nghanol gardd.

Gan ddefnyddio graddfa o 1 cm = 1 m, tywylla’r ardal mae’r ci’n gallu ei chyrraedd.

Ci'n sefyll ar laswellt â llinell yn mesur 3 m yn pwyntio tuag ato