Datrys hafaliadau llinol eraill
Beth os oes gennyn ni hafaliad megis \({p}\) + 3 = 11? Y tro hwn, er mwyn cael \({p}\) ar ei phen ei hun, byddai angen i ni dynnu 3 o ddwy ochr yr hafaliad. Byddai hyn yn ein gadael gyda \({p}\) = 8.
Os bydden ni鈥檔 gwybod bod \({L}\) + 9 = 14 bydden ni鈥檔 tynnu 9 o鈥檙 ddwy ochr gan adael \({L}\) = 5.
Os byddai gennyn ni \({Q}\) + 3 = 1 , bydden ni鈥檔 tynnu 3 o鈥檙 ddwy ochr, gan adael \({Q}\) = 鈥2.
Os byddai gennyn ni \({S}\) + 12 = 鈥4 bydden ni鈥檔 tynnu 12 o鈥檙 ddwy ochr, gan adael \({S}\) = 鈥16.
Yn yr un modd, os byddai gennyn ni hafaliad megis \({R}\) 鈥 12 = 3, rhaid i ni nawr adio 12 at y ddwy ochr er mwyn cael \({R}\) ar ei phen ei hun ar ochr chwith yr hafaliad. Byddai hyn yn rhoi \({R}\) = 15.
Yn aml iawn, rhaid i ni gwblhau mwy nag un cam wrth ddatrys hafaliadau, ond mae鈥檙 rheol hon yn dal i fod yn berthnasol 鈥 beth bynnag y byddi鈥檔 ei wneud i un ochr yr hafaliad, rhaid i ti wneud yr un peth i鈥檙 ochr arall.
Er enghraifft, gad i ni edrych ar 2\({y}\) + 6 = 12. Rhaid i ni ddilyn dau gam - rhaid i ni rannu er mwyn cael gwared 芒鈥檙 2 o flaen y \({z}\) ac yna tynnu i gael gwared 芒鈥檙 6.
Mae disgyblion yn aml yn gwneud y camgymeriad o rannu鈥檙 ddwy ochr 芒 2 ac ysgrifennu:
\({y}\) + 6 = 6
Nid yw hyn yn gywir. Wrth rannu鈥檙 hafaliad 芒 2, dylai roi:
\({y}\) + 3 = 6
Mae hwn yn wahaniaeth pwysig iawn 鈥 pan fyddi鈥檔 rhannu un ochr yr hafaliad, rhaid i ti rannu pob term ar yr ochr honno o鈥檙 hafaliad. Dyma pam mae disgyblion yn aml yn cael eu hannog i wneud y gwaith adio neu dynnu yn gyntaf.
Gad i ni ddatrys yr hafaliad:
2\({y}\) + 6 = 12
Drwy dynnu 6 o鈥檙 ddwy ochr cawn:
2\({y}\) = 6
Drwy rannu dwy ochr yr hafaliad 芒 2, cawn:
\({y}\) = 3
Enghraifft
Datrysa \(\frac{x}{3}~鈥搤{2}={4}\)
Ateb
Drwy adio 2 at y ddwy ochr cawn:
\(\frac{x}{3}={6}\)
Drwy luosi鈥檙 ddwy ochr 芒 3 cawn:
\({x}={18}\)
Question
Datrysa \(\frac{3y}{4}={9}\)
Wrth ddatrys yr hafaliad hwn, rhaid i ni rannu 芒 3 a lluosi 芒 4. Nid oes ots ym mha drefn.
Lluosi 芒 4:
3\({y}\) = 36
Rhannu 芒 3:
\({y}=\frac{36}{3}\)
Felly ein hateb terfynol yw \({y}\) = 12