大象传媒

Cymarebau a chyfranneddRhannu mewn cymhareb benodol

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa鈥檙 map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu鈥檔 lleihau yn yr un gymhareb.

Part of MathemategCymhareb a chyfrannedd

Rhannu mewn cymhareb benodol

Question

Mae Dei a Lisa鈥檔 ennill \(\pounds{500}\) rhyngddyn nhw. Maen nhw鈥檔 cytuno i rannu鈥檙 arian yn 么l y gymhareb \({2}:{3}\).

Faint mae鈥檙 naill a鈥檙 llall yn ei gael?

Trefn

Mae鈥檔 bwysig sylwi ym mha drefn mae rhannau鈥檙 gymhareb wedi eu hysgrifennu. Dydy \({2}:{3}\) ddim yr un fath 芒 \({3}:{2}\).

Yn yr enghraifft, \({2}:{3}\) oedd cymhareb arian Dei i arian Lisa. Os newidiwn y drefn i \({3}:{2}\) yna byddai Dei鈥檔 cael mwy na Lisa.

I鈥檞 gadw yr un fath ag yn yr enghraifft gallwn ni ddweud mai cymhareb arian Lisa i arian Dei ydy \({3}:{2}\).

Question

Mae Anwen a Sioned yn ennill swm o arian, ac yn cytuno i鈥檞 rannu yn 么l y gymhareb \({5}:{3}\).

Os ydy Anwen yn cael \(\pounds{150}\), faint mae Sioned yn ei gael?

Question

Gwneir cadwyn gan ddefnyddio gleiniau aur ac arian yn 么l y gymhareb \({3}:{2}\). Os oes \({80}\) o leiniau yn y gadwyn:

a) Faint sy鈥檔 aur?

b) Faint sy鈥檔 arian?

Cadwen yn cynnwys gleiniau aur a gleiniau arian