大象传媒

Cymarebau a chyfranneddDefnyddio cymarebau

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa鈥檙 map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu鈥檔 lleihau yn yr un gymhareb.

Part of MathemategCymhareb a chyfrannedd

Defnyddio cymarebau

Mae cymarebau鈥檔 cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd a gallan nhw dy helpu i ddatrys problemau wrth greu lluniadau yn 么l graddfa a darllen mapiau.

Lluniadu yn 么l graddfa

Mewn lluniad yn 么l graddfa, mae pob hyd wedi ei leihau yn 么l yr un gyfranedd.

Enghraifft

Mae cwch model yn cael ei wneud ar raddfa \({1}:{20}\) (\({1}\) i \({20}\)). Gallwn ni gymhwyso鈥檙 raddfa hon i unrhyw hyd. Felly mae \({1}~mm\) wedi ei fesur ar y model yn \({20}~mm\) ar y cwch go iawn, mae \({1}~cm\) wedi ei fesur ar y model yn \({20}~cm\) ar y cwch go iawn, ayyb.

Question

Os ydy鈥檙 cwch model \({1}:{20}\) yn \({15}~cm\) o led, beth ydy lled y cwch go iawn?

Question

Os oes gan y cwch hwylbren \({4}~m\) o daldra, pa mor dal ydy鈥檙 hwylbren ar y model?

\({1}:{20}\) ydy鈥檙 raddfa. Mae hyn yn golygu bod pob \({cm}\) ar y model yn gywerth 芒 \({20}~cm\) ar y cwch.