大象传媒

Cymarebau a chyfranneddGraddfeydd mapiau

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa鈥檙 map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu鈥檔 lleihau yn yr un gymhareb.

Part of MathemategCymhareb a chyfrannedd

Graddfeydd mapiau

Gallwn ni ysgrifennu graddfeydd mapiau mewn cymarebau sy鈥檔 dweud sawl uned o dir, m么r ac ati sy鈥檔 hafal i un uned ar y map.

Os wyt ti鈥檔 teithio o Gaerdydd i Wrecsam, er enghraifft, ac angen gwybod pa mor bell ydy鈥檙 daith, byddai鈥檔 anodd iawn canfod hyn os nad oes graddfa ar y map.

Enghraifft

Mae map ar raddfa \({1}:{50,000}\). Mae pellter o \({3}~cm\) yn cael ei fesur ar y map.

Sawl \({cm}\), \({m}\) a \({km}\) mae hyn yn hafal iddo yn y byd go iawn?

Mae \({1}~cm\) ar y map yn cynrychioli \({50,000}~cm\). Felly, mae \({3}~cm\) ar y map yn cynrychioli \({150,000}~cm\).

I drosi o \({cm}\) i \({m}\), rhanna 芒 \({100}\).

\({150,000}~cm\div{100} = {1,500}~m\)

I drosi o \({m}\) i \({km}\) rhanna 芒 \({1,000}\).

\({1,500}~m\div{1,000} = {1.5}~km\)

Question

Mae map ar raddfa \({1}:{50,000}\). Pa bellter ar y map fydd yn cynrychioli \({5}~km\)?