大象传媒

Cymarebau a chyfranneddCyfrannedd union

Ysgrifennir cymarebau fel arfer yn y ffurf a:b a gellir eu defnyddio ar fapiau i ddangos graddfa鈥檙 map. Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw'n cynyddu neu鈥檔 lleihau yn yr un gymhareb.

Part of MathemategCymhareb a chyfrannedd

Cyfrannedd union

Mae dau newidyn mewn cyfrannedd union pan fyddan nhw鈥檔 cynyddu neu鈥檔 lleihau yn yr un gymhareb, ee cynyddu rhywbeth drwy ei ddyblu, neu ei leihau drwy ei haneru.

Dyma broblem nodweddiadol:

Question

Pris deuddeg pensil ydy \({72}~c\). Beth ydy pris \({30}\) pensil?

Rho gynnig ar hon:

Question

Mae Siani鈥檔 prynu \({15}\) pin ffelt. Maen nhw鈥檔 costio \(\pounds{2.85}\). Beth fyddai cost \({20}\) pin ffelt?

Os cefaist ti drafferth canfod yr ateb, rho gynnig ar lenwi鈥檙 bylchau yn y fan hon:

Question

Pris \({15}\) pin ffelt ydy \(\pounds{2.85}\).

Pris \({1}\) pin ffelt ydy \(\pounds{2.85}\div{?}~=\pounds{0.19}\).