大象传媒

Pellter, buanedd a chyflymiadSgalarau, fectorau, buanedd a chyflymder

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi鈥檙 grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Sgalarau, fectorau, buanedd a chyflymder

Mae grymoedd yn gallu newid safle, si芒p neu fudiant gwrthrych. Maen nhw'n gallu gwneud i wrthrychau gyflymu, arafu neu newid cyfeiriad. Cyfeiriad symud sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng mesur sgalar a fector 鈥 dyma'r gwahaniaeth rhwng buanedd a chyflymder gwrthrych.

Buanedd

Mae buanedd yn mesur pa mor gyflym mae rhywbeth yn teithio. Hwn yw'r teithio mewn uned amser. Rydyn ni'n mesur buanedd mewn m/s neu km/h (neu mya mewn ceir yn y Deyrnas Unedig).

\(\text{buanedd}=\frac{\text{pellter teithio}}{\text{amser}}\)

Gallwn ni ddefnyddio'r triongl DST i gyfrifo buanedd, neu bellter ac amser.

Triongl fformiwla yn dangos fod Pellter yn gyfartal i Fuanedd wedi鈥檌 luosi ag Amser.

Gorchuddia'r llythyren rwyt ti'n chwilio amdani i gael y fformiwla briodol.

  • D = S 脳 T
  • S = D 梅 T
  • T = D 梅 S

Question

Os yw car yn teithio 24 m mewn 2 eiliad, beth yw ei fuanedd?

Cyflymder

Yr unig wahaniaeth rhwng buanedd a chyflymder yw bod cyflymder yn ystyried cyfeiriad.

\(\text{cyflymder}=\frac{\text{dadleoliad}}{\text{amser}}\)

yw'r pellter mae rhywbeth wedi'i symud mewn llinell syth neu i gyfeiriad penodol o'r man cychwyn.

Question

Os yw car yn teithio 24 m i'r dwyrain mewn 3 eiliad, beth yw ei gyflymder?

Question

Persbectif o鈥檙 awyr o gynllun llawr t欧. Mae鈥檙 t欧 yn sgw芒r, ac mae pob ochr yn mesur 10 metr. Mae鈥檙 gornel dde uchaf wedi鈥檌 labelu 芒 鈥楧echrau/diwedd鈥.

Rwyt ti'n cerdded yr holl ffordd o gwmpas y t欧 yn y diagram mewn amser o 20 eiliad.

a) Beth yw dy fuanedd?

b) Beth yw dy gyflymder?

Sgalarau a fectorau

Mesuriadau yw mesuriadau 芒 maint yn unig.

Mesuriadau yw mesuriadau 芒 maint a chyfeiriad.

Dyma'r mesuriadau sgalar rwyt ti'n debygol o'u defnyddio mewn Ffiseg:

  • pellter
  • buanedd
  • amser

Dyma'r mesuriadau fector rwyt ti'n debygol o'u defnyddio mewn Ffiseg:

  • dadleoliad
  • cyflymder
  • cyflymiad
  • grym
  • momentwm

Question

Beth yw'r pellter mae rhedwr yn ei deithio wrth symud ar fuanedd o 9 m/s am 4 eiliad?

Question

Faint o amser mae'n ei gymryd i deithio 256 metr ar fuanedd o 8 m/s?

Question

Beth yw cyflymder tr锚n os yw'n teithio 1,000 metr i'r de mewn 25 eiliad?