大象传媒

Pellter, buanedd a chyflymiadCyflymiad ac arafiad

Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi鈥檙 grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.

Part of FfisegGrymoedd, gofod ac ymbelydredd

Cyflymiad ac arafiad

Cyflymiad

Os yw cyflymder gwrthrych yn newid, mae'n cyflymu. yw'r newid cyflymder bob eiliad ac rydyn ni'n ei fesur mewn m/s2.

Mae'r fformiwla hon yn dangos y berthynas rhwng cyflymiad, newid cyflymder a'r amser mae'r newid yn ei gymryd.

\(\text{cyflymiad}=\frac{\text{newid cyflymder}}{\text{amser mae'n ei gymryd}}=\frac{\text{v - u}}{\text{t}}\)

  • v = cyflymder terfynol.
  • u = cyflymder cychwynnol.
Triongl fformiwla yn dangos fod Cyflymiad yn gyfartal i Newid mewn cyflymder wedi鈥檌 rannu ag Amser a gymerwyd.

Question

Beth yw cyflymiad car os yw'n dechrau ar 10 m/s ac yn cyrraedd 30 m/s mewn 4 eiliad?

Question

Beth sy鈥檔 digwydd os yw'r car yn arafu? Alli di gyfrifo'r cyflymiad?

Question

Mae car yn gallu cyflymu o 22 m/s (50 mya) i 30 m/s (70 mya) mewn 4 eiliad. Cyfrifa'r cyflymiad.

Question

Mae beic modur yn mynd o 0 m/s (disymudedd) i 40 m/s mewn 8 eiliad. Cyfrifa'r cyflymiad.

Question

Mae sbortscar yn gallu cyflymu o 0 i 26 m/s (60 mya) mewn 5 eiliad. Beth yw cyflymiad y car?

Question

Mae beiciwr yn brecio ac yn arafu o 11 m/s i 3 m/s mewn 2 eiliad. Cyfrifa gyflymiad y beic.