Cwblhau cyfrifiadau ar gromlinau
Bydd angen i ti allu esbonio cromliniau mewn graffiau pellter-amser a chyflymder-amser, a chwblhau cyfrifiadau arnynt. Mae'r enghraifft hon yn defnyddio graff cyflymder-amser.
Edrych ar y graff, ac yna darllen yr esboniad hwn o fudiant y cerbyd rhwng 60 a 120 eiliad.
- Edrych ar yr echelin-\(\text{y}\) fertigol. Mae angen i ti wirio pa fath o graff ydyw cyn dechrau ateb.
- Rhwng 60 ac 85 eiliad, mae'r graff yn crymu tuag i fyny. Mae hyn yn golygu bod y cyflymder yn cynyddu ar gyfradd sy'n cynyddu. Mewn geiriau eraill, mae鈥檙 cerbyd yn cyflymu'n anunffurf.
- Mae'r graff yn cynyddu mewn llinell eithaf syth rhwng 85 a 95 eiliad. Mae hyn yn cynrychioli cyflymiad unffurf-cyson.
- Rhwng 95 a 120 eiliad, mae'r graff yn crymu i ddod yn llinell lorweddol. Mae hyn yn golygu bod y cyflymiad yn lleihau, hynny yw mae'r cyflymder yn cynyddu ar gyfradd sy'n lleihau.
Os wyt ti'n sefyll yr arholiad haen uwch, efallai y bydd gofyn i ti gyfrifo'r cyflymiad cyfartalog neu'r pellter teithio dros y rhan lle mae'r gromlin. I gyfrifo'r cyflymiad cyfartalog, tynna linell syth (wedi'i dangos yn wyrdd) a dod o hyd i'r graddiant.
Cofia, graddiant = cyflymiad.
Cyflymiad = (15 鈥 0) 梅 (120 鈥 60) = 0.25 m/s2.
I ganfod y pellter teithio, mae angen i ti ganfod yr arwynebedd dan driongl y llinell werdd.
Arwynebedd dan y llinell = 陆 脳 (120 鈥 60) 脳 15 = 450 m.