Pellter, buanedd a chyflymiadNodweddion diogelwch mewn ceir
Gallwn ni ragfynegi mudiant gwrthrych drwy ddadansoddi鈥檙 grymoedd sy'n gweithredu ar wrthrych. Mae grymoedd anghytbwys yn gallu arwain at newid buanedd neu newid cyfeiriad.
I amddiffyn gyrwyr a theithwyr rhag anaf difrifol mewn damwain neu wrthdrawiad, mae gan geir nodweddion diogelwch:
bagiau aer
cywasgranNodwedd diogelwch mewn cerbyd. Mae cywasgrannau wedi鈥檜 dylunio i reoli gwasgiad mewn gwrthdrawiad. Maen nhw鈥檔 cynyddu鈥檙 amser newid momentwm, sy鈥檔 lleihau grym y gwrthdrawiad.
gwregysau diogelwch ag olwyn inertia
Mae'r rhain i gyd yn cynyddu amser ardrawiad, gan leihau'r grym ar y bobl yn y car.
O Ail Ddeddf Newton bydd y fformiwla hon yn rhoi'r grym ar y car mewn gwrthdrawiad.
Dydy'r nodweddion diogelwch ddim yn newid m脿s y car, y buanedd cychwynnol na'r buanedd terfynol, ond maen nhw'n cynyddu'r amser ardrawiad, t yn y fformiwla. Wrth i'r amser ardrawiad gynyddu, mae'r grym ar y bobl yn y car yn mynd yn llai gan dy fod yn rhannu 芒 gwerth mwy.
Mae terfynau cyflymder mewn ardaloedd 芒 llawer o gerddwyr 鈥 fel ysgolion 鈥 yn cael eu gostwng i 20 milltir yr awr, fel bod grym ac egni cinetig cerbyd mewn ardrawiad yn llawer llai. Pan mae buanedd car yn dyblu, mae'r grym ardrawiad yn dyblu a'r egni cinetig yn cynyddu bedair gwaith. Gallai hynny arwain at wrthdrawiad angheuol.