大象传媒

Termau a mynegiadau algebraiddAdio a thynnu termau tebyg

Defnyddir llythrennau mewn algebra yn lle rhifau anhysbys, gan roi termau algebraidd i ni, megis 2x. Wrth gyfuno termau algebraidd trwy weithrediadau mathemategol fel + neu - cawn fynegiad algebraidd.

Part of MathemategMynegiadau a 贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻

Adio a thynnu termau tebyg

Felly mae \({9b},~{-7b}\) ac \({13b}\) yn dermau tebyg, ond mae \({6t},~{5x}\) a \({-11z}\) yn dermau annhebyg.

Symleiddio ydy鈥檙 enw ar gyfer adio a thynnu termau tebyg.

Mae鈥檙 teulu Morris a鈥檙 teulu Jones yn mynd i鈥檙 sw gyda鈥檌 gilydd 鈥 mae \({8}\) plentyn a \({7}\) oedolyn yn y gr诺p. Oherwydd bod mwy na \({10}\) ohonyn nhw, mae鈥檙 teuluoedd yn gallu manteisio ar gynnig arbennig 鈥 caiff \({1}\) plentyn fynediad am ddim.

Fel o'r blaen gallwn ddefnyddio \({g}\) i gynrychioli'r pris mynediad i blant, a \({k}\) i gynrychioli'r pris mynediad i oedolion.

Y gost i鈥檙 teulu Morris \(= {3g} + {3k}\)

Y gost i鈥檙 teulu Jones \(= {5g} + {4k}\)

Cynnig \(= - {g}\)

Cyfanswm y gost \(= {3g} + {3k} + {5g} + {4k} - {g}\)

Wedi ei symleiddio \(= {3g} + {5g} - {g} + {3k} + {4k} = {7g} + {7k}\)

Arwyddion + a -

Mae term, fel rhif, yn perthyn i鈥檙 arwydd sy鈥檔 eistedd o鈥檌 flaen. Felly yn y mynegiad \({2k} - {g}\), mae \({g}\) yn perthyn i鈥檙 arwydd - sy鈥檔 eistedd o鈥檌 flaen, felly mae鈥檔 \(- {g}\); ac mae \({2k}\) yn perthyn i鈥檙 arwydd + sy鈥檔 eistedd o鈥檌 flaen, felly mae鈥檔 \(+ {2k}\).

Cofia:

Casgla鈥檙 termau tebyg i gyd at ei gilydd, ee gelli di ailysgrifennu鈥檙 mynegiad \({3g} + {2k} + {5g} + {4k} - {g}\) gyda phob \({g}\) a phob \({k}\) gyda鈥檌 gilydd: \({3g} + {5g} - {g} + {2k} + {4k}\)

Wrth adio neu dynnu termau, cadwa bob term gyda鈥檌 arwydd \(+\) neu \(-\).

Question

Symleiddia \({4x} + {y} - {2x} + {6y}\).

More guides on this topic