Y defnydd o alltudio o鈥檙 1770au hyd at y 1860au
O 1654 roedd rhai troseddwyr yn cael eu hanfon i weithio yn nhrefedigaethau Prydeinig yn America yn hytrach na鈥檜 dienyddio. Daeth y gosb yn fwy cyffredin yn dilyn Deddf Alltudio 1717. Roedd troseddwyr yn cael eu hanfon i America tan ddechrau Rhyfel Annibyniaeth America.
Dechreuodd alltudio, neu drawsgludo, i Awstralia yn 1787, 17 blynedd ar 么l i Gapten Cook ddarganfod Awstralia. Gadawodd yr 11 llong cyntaf ym mis Mai 1787 o Portsmouth gyda 736 o droseddwyr. Bu farw 40 o bobl yn ystod y daith wyth mis i Fae Botany.
Roedd alltudio yn aml yn gosb a roddwyd i bobl a ganfuwyd yn euog o ladrata - roedd 80 y cant o鈥檙 troseddwyr a alltudiwyd yn euog o ladrata. Roedd y rhan fwyaf yn droseddwyr mynych.
Roedd alltudio hefyd yn gosb a roddwyd i brotestwyr. Cafodd rhai o鈥檙 Ludiaid, Terfysgwyr Beca a Merthyron TolpuddleProtestwyr yn nhref Tolpuddle yn Dorset. Fe wnaethon nhw ffurfio undeb llafur i brotestio am eu cyflog isel. Roedd undebau llafur yn anghyfreithlon ar y pryd ac alltudiwyd yr arweinwyr am saith mlynedd. eu hallfudo. Dim ond 15 y cant o鈥檙 troseddwyr a alltudiwyd oedd yn fenywod. Roedd nifer o farnwyr yn defnyddio alltudio fel dewis arall yn hytrach na鈥檙 gosb eithaf ar adeg y Cod Gwaedlyd. Roedd y dedfrydau yn para am 7 neu 14 blynedd neu am oes.
Dim ond 1.2 y cant o鈥檙 troseddwyr a alltudiwyd oedd yn Gymry. Roedd tua 69 y cant yn Saeson, 25 y cant yn Wyddelod a 5 y cant yn Albanwyr.
Enghreifftiau o Gymry a alltudiwyd
Roedd Lewis Lewis yn un o arweinwyr Terfysg Merthyr. Fel Dic Penderyn, cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond newidiwyd ei ddedfryd i alltudiaeth ac fe鈥檌 hanfonwyd i New South Wales yn 1832.
Roedd John Frost yn un o arweinwyr mudiad y Siartwyr yn ystod Gwrthryfel Casnewydd. Fe鈥檌 dedfrydwyd i farwolaeth ar y cychwyn ond newidiwyd ei ddedfryd i alltudiaeth yn ddiweddarach.
Cafodd arweinwyr Terfysg Beca, Dai鈥檙 Cantwr a Shoni Sguborfawr eu trawsgludo i Awstralia hefyd.
Llongau carchar
Roedd troseddwyr oedd yn aros i gael eu halltudio yn cael eu cadw yn y carchar, neu ar llong garcharLlong ryfel segur a ddefnyddiwyd fel carchar dros-dro.. Yna bydden nhw鈥檔 cael eu rhoi ar long a gallai鈥檙 daith i Awstralia gymryd nifer o fisoedd. Cymrodd y llong gyntaf dros wyth mis i gyrraedd Awstralia. Roedd yr amodau ar y daith yn aml yn orlawn a bu farw rhai troseddwyr ar y ffordd. Yn aml roedd troseddwyr yn cael eu clymu i gadwyni gyda haearnau coesau ar longau carchar.
Ar 么l cyrraedd Awstralia, roedd rhai carcharorion yn gorfod gweithio yn adeiladu ffyrdd neu falu creigiau. Roedd nifer o garcharorion yn gorfod gweithio i setlwyr rhydd, sef pobl oedd wedi dewis ymgartrefu yn Awstralia. I鈥檙 carcharorion oedd yn ymddwyn yn dda, efallai nad oedd y bywyd yma yn rhy ddrwg.
Roedd y cosbau yn llym, ac roedd y carcharorion yn cael eu chwipio am anufuddhau i鈥檙 rheolau. Roedd y rhai oedd yn gwrthod dilyn y rheolau yn cael eu hanfon i鈥檙 setliadau mwy anghysbell i weithio mewn gangiau cadwyni.
O ganlyniad i ymddygiad da, gallai rhai carcharorion sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau yn gynnar drwy gael tocyn gadael ar 么l pedair blynedd. Roedd eraill yn cael 鈥榩ardwn amodol鈥 ac yn gallu canfod gwaith cyflogedig eu hunain am weddill eu dedfryd.
Ond, roedd nifer yn cwblhau eu dedfrydau saith neu 14 blynedd yn llawn ac yn derbyn tystysgrif rhyddid ar y diwedd.
Ar 么l cael eu rhyddid, penderfynodd nifer setlo yn Awstralia a ni wnaethon nhw ddychwelyd adref. Roedd hynny鈥檔 rhannol oherwydd nad oedd llawer yn gallu fforddio talu am y daith yn 么l. Derbyniodd Dai鈥檙 Cantwr ei ryddid ym mis Ebrill 1854 a鈥檌 esgusodi鈥檔 amodol ar 31 Hydref yr un flwyddyn. Derbyniodd Shoni Sguborfawr ei ryddid yn 1856 a鈥檌 esgusodi鈥檔 amodol yn 1858.