Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu鈥檔 ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.
Mae safle gan bob term mewn dilyniant. Mae鈥檙 term cyntaf yn safle 1, mae鈥檙 ail derm yn safle 2 ac yn y blaen.
Mae rheolau safle i derm yn defnyddio algebra i gyfrifo pa rif sydd mewn dilyniant, os yw ei safle yn y dilyniant yn hysbys. Yr enw arall ar hyn yw鈥檙 \(n\)fed term, sef rheol safle i derm sy鈥檔 cyfrifo term yn safle \(n\), lle mae \(n\) yn golygu unrhyw safle yn y dilyniant.
Cyfrifo rheolau safle i derm
Enghraifft
Cyfrifa鈥檙 rheol safle i derm yn y dilyniant canlynol:
5, 6, 7, 8, ...
Yn gyntaf, ysgrifenna鈥檙 dilyniant a safle pob term.
Nesaf, meddylia sut i fynd o鈥檙 safle i鈥檙 term.
Yn yr enghraifft hon, i fynd o鈥檙 safle i鈥檙 term, cymera rif y safle ac adia 4.
Os mai \(n\) yw鈥檙 safle, yna鈥檙 rheol safle i derm yw \(n + 4\).
Yr nfed term
Yr \(n\)fed term mewn dilyniant yw鈥檙 rheol safle i derm gan ddefnyddio \(n\) i gynrychioli rhif y safle.
Enghraifft
Cyfrifa鈥檙 \(n\)fed term yn y dilyniant canlynol:
3, 5, 7, 9, ...
Yn gyntaf, ysgrifenna鈥檙 dilyniant a safleoedd y termau.
Gan nad oes ffordd amlwg i fynd o鈥檙 safle i鈥檙 term, edrycha am wahaniaeth cyffredin rhwng y termau. Yn yr achos hwn, mae yna wahaniaeth o 2 bob tro.
Mae鈥檙 gwahaniaeth cyffredin hwn yn disgrifio鈥檙 tabl lluosi mae鈥檙 dilyniant yn gweithio ynddo. Yn y dilyniant hwn, tabl lluosi 芒 2 sydd dan sylw.
Ysgrifenna鈥檙 tabl lluosi 芒 2 a chymhara bob term yn y dilyniant 芒鈥檙 tabl lluosi 芒 2.
I fynd o鈥檙 safle i鈥檙 term, yn gyntaf lluosa鈥檙 safle 芒 2, yna adia 1. Os mai \(n\), yw鈥檙 safle, mae鈥檔 \(2 \times n + 1\) a gallwn ysgrifennu hyn fel \(2n + 1\).
Question
Cyfrifa鈥檙 hafaliad \(n\)fed term ar gyfer y dilyniant canlynol:
6, 13, 20, 27, 鈥
Y gwahaniaeth cyffredin yw +7
Cymhara鈥檙 dilyniant 芒鈥檙 tabl lluosi 芒 7:
7, 14, 21, 28, 鈥
Rhaid i ni dynnu 1 o鈥檙 tabl lluosi 芒 7 er mwyn cael ein dilyniant. Felly term \(n\) yw \(7n - 1\).