大象传媒

DilyniannauDilyniannau arbennig

Gall dilyniannau fod yn llinol, yn gwadratig neu鈥檔 ymarferol ac wedi eu seilio ar fywyd bob dydd. Gallwn ni ganfod termau mewn dilyniannau yn gyflymach trwy ganfod rheolau cyffredinol.

Part of MathemategAlgebra

Dilyniannau arbennig

Mae yna rai dilyniannau arbennig y dylet eu hadnabod sydd ddim yn rhai llinol na chwadratig.

Dyma鈥檙 rhai pwysicaf:

  • rhifau ciwb: 1, 8, 27, 64, 125, ...
  • rhifau triongl: 1, 3, 6, 10, 15, ... (mae鈥檙 rhifau hyn yn gwadratig, a鈥檙 \(n\)fed term yw \(\frac{1}{2}n^2 + \frac{1}{2}n\))
  • Dilyniant Fibonacci: 1, 1, 2, 3, 5, 8, 13, ... (yn y dilyniant hwn, rwyt yn cychwyn gyda rhif 1, ac yna i gael pob term rwyt yn adio鈥檙 ddau derm a ddaw o鈥檌 flaen)