Bachgen yn y M么r gan Morris GleitzmanYngl欧n 芒鈥檙 nofel
Mae Jamal a'i deulu yn dianc o Afghanistan ac yn ffoi i ben draw'r byd. Mae stori Bachgen yn y M么r yn cael ei dweud yn y person cyntaf ac mae'r iaith ynddi'n creu cyffro, tensiwn ac awyrgylch.
Cafodd Morris Gleitzman ei eni yn Lloegr a symudodd i Awstralia gyda鈥檌 deulu pan oedd e鈥檔 16 oed. Efallai mai dyna pam y mae ganddo ddiddordeb mewn ffoaduriaid a phobl sydd wedi gorfod gadael eu gwreiddiau. Mae nofelau Morris Gleitzman yn realistig ac yn aml mae e鈥檔 trafod pynciau gwleidyddol neu hanesyddol dadleuol. Mae ei nofelau鈥檔 gallu bod yn drist.
Cafodd y nofel ei haddasu i'r Gymraeg gan Elin Meek.
Lleoliadau鈥檙 nofel
Mae hon yn nofel sy鈥檔 digwydd mewn nifer o wledydd. Dyma fap o鈥檙 byd er mwyn dangos pellter y gwledydd oddi wrth ei gilydd.
Afghanistan
Yma mae cartref Jamal a Bibi ond mae鈥檔 rhaid iddyn nhw ddianc oherwydd ysgol anghyfreithlon eu rhieni.
Pacistan
Ni enwir y wlad yn y nofel ond mae鈥檔 fwy na thebyg mai dyma ble鈥檙 oedd y gwersyll ffoaduriaid enfawr. Cyrhaeddodd y teulu yma wedi dianc yn y tacsi.
Awstralia
Roedd llongau鈥檙 ffoaduriaid yn mynd i Awstralia i chwilio am fywyd gwell.