大象传媒

贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻Ysgrifennu fformiwl芒u mewn geiriau

Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti鈥檔 ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.

Part of MathemategMynegiadau a 贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻

Ysgrifennu fformiwl芒u mewn geiriau

Dyddiau鈥檙 wythnos

Petai rhywun yn gofyn i ti sawl diwrnod sydd mewn wythnos, byddet yn cael yr ateb yn rhwydd. Mae \({7}\) diwrnod mewn wythnos. Beth am nifer y diwrnodau mewn pythefnos? Eto, mae鈥檙 ateb yn eitha syml: \({14}\).

Beth sy鈥檔 digwydd pan fydd rhywun yn gofyn sawl diwrnod sydd mewn tair wythnos, neu bedair, neu bump? Os wyt ti鈥檔 gwybod y fformiwla gallet ti weithio hyn allan.

\({1}\) wythnos ydy \({1}\times{7}~diwrnod={7}\)

\({2}\) wythnos ydy \({2}\times{7}~diwrnod={14}\)

\({3}\) wythnos ydy \({3}\times{7}~diwrnod={21}\)

\({4}\) wythnos ydy \({4}\times{7}~diwrnod={28}\)

Felly, y fformiwla ar gyfer canfod nifer y diwrnodau ydy:

\(nifer~y~diwrnodau=nifer~yr~wythnosau\times{7}\)

Question

a) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{1}\)?

b) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{2}\)?

c) Sawl ceiniog sydd mewn \(\pounds{7}\)?

ch) Beth ydy鈥檙 fformiwla sy鈥檔 cysylltu nifer y ceiniogau 芒 nifer y punnoedd?

More guides on this topic