大象传媒

贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻Amnewid

Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti鈥檔 ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.

Part of MathemategMynegiadau a 贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻

Amnewid

Pan roddir rhifau yn lle鈥檙 llythrennau mewn fformiwla, gelwir hynny鈥檔 amnewid.

Enghraifft o amnewid gydag amser

Ar gyfer mesur amser, mae arwyneb y Ddaear wedi ei rannu鈥檔 \({24}\) rhan gyfartal o \({15}^\circ\), sef y cylchf芒u amser, sy鈥檔 dechrau yn Greenwich, Llundain (Greenwich Mean Time - GMT). Wrth basio dros bob cylchfa tua鈥檙 dwyrain byddi di鈥檔 adio \({1}\) awr at GMT, ac wrth basio dros bob cylchfa tua鈥檙 gorllewin byddi di鈥檔 tynnu \({1}\) awr oddi wrth GMT.

Ar y sail hon, galwa鈥檙 amser yn Llundain yn \({g}\).

Y fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Bangkok, Gwlad Thai ydy \({g}+{7.00}\).

A鈥檙 fformiwla ar gyfer canfod yr amser yn Santiago, Chile, ydy \({g}-{4.00}\).

Mae鈥檙 fformiwl芒u hyn yn caniat谩u i ni amnewid \({g}\) am unrhyw amser yn Llundain i ganfod yr amser yn Bangkok neu Santiago.

Question

Gan ddefnyddio鈥檙 fformiwla uchod, canfydda鈥檙 amser yn Bangkok pan mae鈥檔 \({14.00}\) yn Llundain.

Question

Faint o鈥檙 gloch ydy hi yn Santiago, Chile, pan mae hi鈥檔 \({20.00}\) o鈥檙 gloch yn Llundain?

Enghraifft o amnewid gyda thymheredd

Dyma鈥檙 fformiwla ar gyfer trosi鈥檙 tymheredd mewn graddau Fahrenheit \((^\circ{F})\) i鈥檙 tymheredd mewn graddau Celsius \((^\circ{C})\).

\({c}=\frac{{5}({f}-{32})}{9}\)

Mae \(f\) yn cynrychioli鈥檙 tymheredd mewn \(^\circ{F}\).

Mae鈥檙 fformiwla hon yn caniat谩u i ti amnewid unrhyw dymheredd \(^\circ{F}\) yn lle \({f}\) i ganfod ei dymheredd cywerth mewn \(^\circ{C}\).

Enghraifft

I ganfod y tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae鈥檔 \({68}^\circ{F}\), rho \({68}\) yn lle鈥檙 \({f}\) yn y fformiwla.

Pan fydd \({f} = {68}\),

\({5}({f} - {32})\div{9}\)

\(= {5}({68} - {32})\div{9}\)

Cofia gyfrifo unrhyw gyfrifiad mewn cromfachau鈥檔 gyntaf: \(({68} - {32}) = {36}\).

Mae rhif nesaf at unrhyw beth mewn cromfachau鈥檔 golygu y dylid lluosi cynnwys y cromfachau, felly mae \({5}({36})\) yn golygu \({5}\times{36}:\)

\({5}({36})\div{9}\)

\(= ({5}\times{36})\div{9}\)

\(= {180}\div{9} = {20}\)

Felly \({68}^\circ{F} = {20}^\circ{C}\)

Question

Beth ydy鈥檙 tymheredd mewn \(^\circ{C}\) pan mae鈥檔 \({77}^\circ{F}\)?

More guides on this topic