大象传媒

贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻Newid testun fformiwla

Mewn algebra, gelli di ddefnyddio llythyren i gynrychioli rhif nad wyt ti鈥檔 ei wybod.Gallwn ni greu termau algebraidd, ee 2x a 5y a'u rhoi at ei gilydd i greu mynegiad algebraidd, ee 2x + 5y + 3z.

Part of MathemategMynegiadau a 贵蹿辞谤尘颈飞濒芒耻

Newid testun fformiwla

Weithiau mae angen ad-drefnu鈥檙 fformiwla i ganfod y gwerth rwyt ti鈥檔 chwilio amdano.

Arwynebedd cylch (\({A}\)) ydy \(\pi{r}^{2}\).

Felly, \({A} = \pi{r}^{2}\).

Mae hyn yn ddefnyddiol os ydyn ni鈥檔 gwybod radiws y cylch ac eisiau gwybod yr arwynebedd. Ond beth os ydyn ni'n gwybod arwynebedd y cylch, ac eisiau canfod y radiws?

Rydym angen fformiwla sy鈥檔 rhoi \({r} = \)(rhyw fynegiad yn \({A}\)). Fe gawn ni hyn drwy ad-drefnu鈥檙 fformiwla \({A}=\pi{r}^{2}\) fel hyn:

\({A} = \pi{r}^{2}\)
Dechreua drwy rannu鈥檙 ddwy ochr 芒 \(\pi\). \(\frac{A}{\pi}= {r}^{2}\)
Wedyn canfydda ail isradd y ddwy ochr.\(\sqrt{\frac{A}{\pi}}={r}\)
Tro鈥檙 fformiwla o gwmpas i鈥檞 gwneud yn haws ei darllen.\({r}=\sqrt{\frac{A}{\pi}}\)
\({A} = \pi{r}^{2}\)
Dechreua drwy rannu鈥檙 ddwy ochr 芒 \(\pi\).
\(\frac{A}{\pi}= {r}^{2}\)
Wedyn canfydda ail isradd y ddwy ochr.
\(\sqrt{\frac{A}{\pi}}={r}\)
Tro鈥檙 fformiwla o gwmpas i鈥檞 gwneud yn haws ei darllen.
\({r}=\sqrt{\frac{A}{\pi}}\)

Mae鈥檙 fformiwla wedi ei had-drefnu. Dywedwn nawr mai \({r}\) ydy testun y fformiwla.

Question

Y fformiwla ar gyfer canfod cylchedd cylch: \({C} = {2}\pi{r}\)

Ad-drefna鈥檙 fformiwla fel mai \({r}\) ydy鈥檙 testun.

Question

Y fformiwla ar gyfer trosi鈥檙 tymheredd mewn \(^\circ{F}\) i'r tymheredd mewn \(^\circ{C}\) ydy: \({c}=\frac{{5}({f}-{32})}{9}\)

Ad-drefna鈥檙 fformiwla hon er mwyn trosi鈥檙 tymheredd mewn \(^\circ{C}\) i鈥檙 tymheredd mewn \(^\circ{F}\) (fel mai \({f}\) ydy鈥檙 testun).

More guides on this topic