大象传媒

Adlewyrchiad mewnol cyflawn tonnauCyfathrebu dros bellter hir

Archwiliad o'r amodau sydd eu hangen ar gyfer adlewyrchiad mewnol cyflawn yw hwn. Mae'n trin a thrafod y defnyddio ffibrau optegol mewn adlewyrchiad mewnol cyflawn at ddiben meddygol a chyfathrebu.

Part of FfisegTrydan, egni a thonnau

Cyfathrebu dros bellter hir

Gallwn ni ddefnyddio ffibrau optegol i gyfathrebu dros bellter hir. Efallai y bydd gofyn i ti gymharu defnyddio ffibrau optegol 芒 lloerenni i gyfathrebu dros bellter hir.

Mae hi'n bosibl cyfrifo'r oediad amser ar gyfer y ddau ddull cyfathrebu.

Question

Mae hi'n bosibl cyfathrebu rhwng Caerdydd a Brwsel 芒 lloeren neu gan ddefnyddio ffibrau optegol. Defnyddia'r data isod i gyfrifo oediad amser ar gyfer y ddau ddull.

Diagram yn dangos trawsyriad signal microdon o Gaerdydd i loeren ac yna i lawr i Frwsel. Nid yw鈥檙 diagram wrth raddfa.

Buanedd isgoch mewn gwydr = 2 脳 108 m/s

Buanedd microdonnau mewn aer = 3 脳 108 m/s

Uchder y lloeren uwchben y ddaear = 36,000 km

Y pellter o Gaerdydd i Frwsel = 530 km

Question

Cymhara sut mae ffibrau optegol a lloerenni yn cael eu defnyddio i gyfathrebu dros bellter hir.